Mae’r Tîm Llesiant Myfyrwyr yma i’ch helpu gyda phob agwedd o’ch llesiant yn y coleg. Gall fod amser pan fyddwch angen cyngor a chymorth ychwanegol i helpu datrys problem nad yw’n mynd i ffwrdd neu i gael cyngor fel y gallwch wneud y penderfyniad gorau drosoch eich hun.
Ar draws pob campws, gall myfyrwyr wneud apwyntiad i alw heibio i gwrdd gyda Swyddog Llesiant Myfyrwyr bob dydd rhwng 12pm a 2pm yn yr Hybiau Llesiant. Gallwch hefyd ofyn am apwyntiad gyda Chwnselydd mewn sesiwn galw heibio.
Galwch gysylltu â’r Tîm mewn amrywiaeth o ffyrdd eraill:
Rydym yn ymroddedig i gadw ein myfyrwyr yn ddiogel rhag niwed, a all gynnwys cam-driniaeth, perygl ar-lein, esgeuluso neu radicaleiddio. Mae ein rôl yn cynnwys eich cadw’n ddiogel rhag damweiniau, troseddu a bwlio, a hyrwyddo eich lles a phrofiadau bywyd cadarnhaol mewn amgylchedd iach, diogel, amrywiol a chroesawgar.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am eich diogelwch neu lesiant, cysylltwch â’r Tîm Llesiant Myfyrwyr ar 01656 302 302 est. 488 neu ar wellbeing@bridgend.ac.uk. Mae gwybodaeth am ein dull gweithredu ar ddiogelu ar gael ar ein tudalen Diogelu.
Gall y Tîm Llesiant Myfyrwyr roi cyngor a gwybodaeth i chi ar amrywiaeth o bynciau, tebyg i:
Mae llawer o gyfleoedd i chi fwynhau gweithgaredd corfforol yn y Coleg yn cynnwys tennis bwrdd, pêl-droed, pêl-fasged, Zumba, Rygbi, yoga ac ymwybyddiaeth ofalgar, i enwi ond rhai!
Os ydych yn angerddol am fod yn egnïol a byw bywyd iach, gallwch wneud cais i ddod yn Llysgennad Egnïol. Mae mwy o wybodaeth am fod yn Llysgennad ar gael ar ein tudalen Llais Myfyrwyr
Cysylltwch â’r Tîm Llesiant Myfyrwyr i gael cymorth os oes gennych gyfrifoldebau adre, neu os oes newid yn lle’r ydych yn byw (tebyg i newid lleoliad neu symud i fyw’n annibynnol) a’ch bod angen cyngor ac arweiniad.