Mae Coleg Penybont yn lle arbennig i ddysgu a gweithio. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n galluogi pobl i fod yn arloesol ac yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni am greu cyfleoedd ysbrydoledig a gwneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar bobl, er lles pob unigolyn ac ym mhob rhyngweithiad.
Gwyddom mai’r safonau rydyn ni’n cerdded heibio iddynt yw’r safonau rydyn ni’n eu derbyn, felly drwy fod yn chwaraewr tîm sy’n ymroddedig i werthoedd ein sefydliad, gallwn sicrhau fod pawb yn barod i ddysgu a gweithio mewn amgylchedd lle maen nhw’n cael eu parchu ac yn teimlo’n ddiogel, i fod yn bopeth y gallant fod.
Mae pobl wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn sefydliad seiliedig ar werthoedd, ac yn edrych am bobl i ymuno â ni sy’n rhannu’r gwerthoedd hynny.
|
|
Swyddi Diweddaraf
|
Mae ein Canllawiau i Ymgeiswyr yn rhoi cyngor hanfodol ar sut i strwythuro’ch cais, gan gynnwys arweiniad ar ddefnyddio’r dull STAR (Sefyllfa, Tasg, Camau Gweithredu, Canlyniad) i ddangos tystiolaeth o’ch sgiliau. Mae hefyd yn nodi ein harferion recriwtio cynhwysol, fel y Cynllun Gwarantu Cyfweliad, ac yn rhoi gwybodaeth bwysig am wiriadau DBS a phreifatrwydd data.
Rydyn ni eisiau bod yn lle noddfa, gan ddarparu ymdeimlad o berthyn.
Rydym eisiau i’r holl staff deimlo y gallant fod yn nhw eu hunain – yn syml, ‘Byddwch chi’ch hun’. Rydym ar daith ac yn ymroddedig i ddod yn sefydliad rhagorol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn ac y gallant ffynnu.
Mae rhagor o wybodaeth am ein hadroddiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael ar ein tudalen Data a Monitro













































































