Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cydnabod Coleg Penybont fel sefydliad CyberFirst Aur – y clod uchaf y maent yn ei roi i ysgolion a cholegau.
Mae cynllun Ysgolion / Colegau CyberFirst yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i sefydliadau addysgol ledled y Deyrnas Unedig sy’n dangos ymrwymiad i ddarparu dull strategol strwythuredig o sicrhau rhagoriaeth mewn addysg seiber. Mae’r cynllun yn helpu i hwyluso cysylltiadau rhwng y sefydliadau hyn a phrifysgolion a sefydliadau rhanbarthol trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n ymwneud â’r maes seiber, megis cystadlaethau sgiliau.
NCSC, sy’n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) – asiantaeth cudd-wybodaeth a diogelwch y DU – yw prif awdurdod technegol y DU ar seiberddiogelwch. Nod ei rhaglen CyberFirst yw helpu pobl ifanc i archwilio a meithrin eu diddordeb mewn technoleg trwy eu cyflwyno i fyd seiberddiogelwch.
Mae’r NCSC yn dyfarnu un o dri statws gwahanol i sefydliadau – Aur, Arian neu Efydd – sy’n adlewyrchu sefyllfa bresennol y sefydliad o ran addysgu seiberddiogelwch, uchelgais strategol a chynlluniau datblygu. Er mwyn ennill statws Aur, bu’n rhaid i Goleg Penybont ddangos dealltwriaeth fanwl o berthnasedd TG ac addysg seiber ac ymrwymiad i ddatblygu ei ddarpariaeth a chyfleoedd i fyfyrwyr.
Mae’r Coleg yn cynnig darpariaeth cyfrifiadura, TG a seiber gadarn sy’n ymgorffori ystod o wasanaethau, o gyrsiau i gystadlaethau sgiliau. Gyda chefnogaeth Coleg Seiber Cymru, mae’r Coleg nid yn unig yn cynnig darpariaeth arbenigol i fyfyrwyr, ond hefyd yn dangos ymhellach ei ymrwymiad i wella dealltwriaeth pobl ifanc o yrfaoedd a sgiliau seiber, gan roi’r hyder sydd ei angen arnynt i chwilio am waith yn y sector.
Hoffech chi ddysgu mwy am sut y gall Coleg Penybont helpu i lansio eich gyrfa yn y maes seiber? Gwelwch ein cyrsiau Cyfrifiadura, TG a Seiber.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod gyda’r anrhydedd hwn. Mae Dyfarniad Aur Cyber First yn brawf o’n hymrwymiad i weithio gydag ysgolion a phartneriaid i ddenu talent i’r sector hwn, sy’n cael ei gefnogi gan y llwybrau addysgol sydd gennym yn y Coleg.”
Amy Desmond-Williams, Dirprwy Reolwr y Cwricwlwm ar gyfer Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Technoleg Ddigidol a TG yng Ngholeg Penybont
































































