Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dwyieithog i fyfyrwyr ac rydym yn ymdrechu i fodloni ein dyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg. Fel myfyriwr, mae gen ti hawl o dan y safonau hyn i’r canlynol:
Ffurflenni yn Gymraeg Hefyd gelli di gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg (bydd hyn yn dibynnu ar y corff arholi) a gwneud cais am gefnogaeth ariannol yn Gymraeg.
Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg sy’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, felly cadwa lygad ar ein porth myfyrwyr, y safle Profiad y Dysgwyr a’r sgriniau digidol o gwmpas ein campysau i gael manylion.
Os wyt ti’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu, hoffwn dy annog di i ddefnyddio cymaint o Gymraeg â phosibl yn y Coleg. I dy helpu di i ddod o hyd i staff a myfyrwyr eraill sy’n siarad Cymraeg, rydym yn defnyddio’r symbol Cymraeg Gwaith ar ein laniardiau, fel y dangosir gyferbyn. Os oeddet ti’n ddisgybl mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu os wyt ti’n fodlon cyfathrebu yn Gymraeg, byddwn yn cynnig un o’r laniardiau yma iti wrth iti gofrestru. Mae staff yn gwisgo laniardiau tebyg, felly pan weli di’r symbol oren, mae croeso iti siarad â’r person hwnnw yn Gymraeg.
Mae hefyd gennym Arweinydd Ymgysylltu â Myfyrwyr a thîm o Lysgenhadon Cymraeg wedi’u noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd oll yma i dy helpu a dy gefnogi di i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Coleg.