Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn agor ein drysau i’r cyhoedd ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau darganfod. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi blas ar fywyd myfyrwyr yng Ngholeg Penybont ac yn ffordd wych o drafod opsiynau o ran cyrsiau ac archwilio’r ystod eang o gymorth sydd ar gael i chi.
Open Day (Campysau Penybont a Phencoed)
Thursday 14 August 2025, 9.30am-12pm
Open Day (Pencoed Campus Only)
Dydd Iau 21 Awst 2025, 9yb-5yp
**Cyhoeddir dolenni cofrestru cyn bo hir**
Mae ein Digwyddiadau Darganfod hefyd yn cynnwys teithiau campws unigol. Caiff y daith ei chynnal ar y campws y mae’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi yn cael ei astudio, ac fe gaiff ei theilwra’n benodol ar gyfer hynny. Gan gynnig cyfle unigryw i weld ein campysau dan amgylchiadau tawelach a mwy personol, mae ein teithiau maes pwnc yn rhoi cipolwg agos ar raglenni a chyfleusterau penodol, gan ganiatáu i chi ofyn cwestiynau a chael mewnwelediad gwerthfawr gan ein harbenigwyr yn uniongyrchol. Bydd ein tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) pwrpasol hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac i ddarparu cymorth i ddysgwyr ag anghenion penodol a’u teuluoedd. Yn wahanol i deithiau grŵp mawr, mae’r sesiynau ffocws hyn yn cynnig profiad mwy teilwredig, gan sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau pwysig am eich dyfodol.
Ymunwch â ni ar un o’n teithiau campws. Rydym yn cynnig dros 20 o deithiau gwahanol, pob un ohonynt yn canolbwyntio ar faes pwnc penodol.
Gwasanaethau Myfyrwyr Bydd ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn bresennol i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a all fod gennych o gyngor ar gludiant a chyllid, i ganfod y gefnogaeth gywir i chi fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau.
Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Mae ein Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnig help a chymorth i unrhyw fyfyriwr sydd ag angen dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gyda dyslecsia, colli golwg neu glyw, technoleg gynorthwyol a chymorth yn yr ystafell ddosbarth.
Tîm Llesiant Myfyrwyr
Gall ein Tîm Llesiant Myfyrwyr eich cefnogi gyda phob agwedd o lesiant, o aros yn gorfforol heini i drin eich arian, neu wella eich iechyd meddwl.
Cyfleoedd
Cyfleoedd yw’r hyb gyrfaoedd yng Ngholeg Penybont. Gall y tîm eich helpu i ymchwilio cyfleoedd gyrfa i gyflawni, datblygu a sicrhau swydd gyflogedig ystyrlon.
Tiwtoriaid cwrs Yn ogystal â’n timau cefnogi, gallwch siarad gyda tiwtoriaid cyrsiau yn ein Digwyddiadau Agored i ganfod mwy am ein cyrsiau.