Mae ein cyrsiau Coleg Cymunedol yn ffordd wych o ddechrau hobi newydd neu ddatblygu sgiliau newydd. Mae ein cyrsiau hobi a hamdden achrededig yn cael eu cynnig mewn ystod eang o feysydd pwnc, yn nodweddiadol 10 wythnos o hyd ac yn cynnwys darpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar gyfer cyrsiau ar-lein, bydd angen cyfeiriad e-bost Gmail arnoch y gellir ei osod trwy fynd i mail.google.com.
Ar hyn o bryd mae ein cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu eu bod am ddim i drigolion Cymru*. Codir ffi o £150 i drigolion y tu allan i Gymru.
*Byddwch angen tystiolaeth o’ch cyfeiriad pan fyddwch yn cofrestru.