Mae gennym bedwar campws ledled Bwrdeistref Sirol Penybont ar Ogwr sy’n cynnig cyfleusterau a chyfleoedd dysgu gwych. Mae manylion am ein campysau isod, a gallwch ddefnyddio ein cynlluniwr teithiau bws os ydych chi’n bwriadu teithio i Goleg Pen-y-bont ar fws.
Mae Campws Penybont o fewn pellter cerdded o ganol y dref. Cynigiwn amrywiaeth o gyrsiau ar y campws yn amrywio o Astudiaethau Plentyndod a Thrin Gwallt i Arlwyo a Sgiliau Byw Annibynnol.
Mae’r cyfleusterau yma’n cynnwys Theatr Sony, ein salon gwallt a harddwch, Salon31 a Bwyty31, sydd ar agor i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Mae gennym hefyd siop goffi, Clwb Coffi, sydd ar agor i’r cyhoedd ac a gaiff ei rhedeg gan fyfyrwyr o’n hadran Sgiliau Byw Annibynnol.
Campws Penybont ar Ogwr hefyd yw cartref Tŷ Weston, ein llety preswyl pwrpasol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu nam.
Campws Pencoed yw cartref academi STEAM a’n Canolfan Astudiaethau Tir, yn ogystal â’n Hacademïau Adeiladu a Chwaraeon. Hwn yw ein campws mwyaf ac mae’n cynnwys cyfleusterau rhagorol tebyg i lain chwaraeon 3G, ardaloedd ceffylaidd modern a neuadd chwaraeon. Mae Academi STEAM yn cynnwys addysgu a dysgu ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddydau a Mathemateg.
Gydag erwau o ofodau agored gwyrdd, gallech astudio unrhyw beth o Amaethyddiaeth ac Adeiladu i Ofal Anifeiliaid, Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon.
Ar gyrion pentref Pencoed, mae’r campws hwn hefyd yn cynnig cyfleusterau lleol a chysylltiadau trafnidiaeth cyfleus.
Mae ein Campws Heol y Frenhines wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r campws hwn yn ymroddedig i ddarparu addysgu a dysgu mewn Cerddoriaeth.