Tŷ Weston yw ein darpariaeth addysg bellach breswyl arbenigol ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. O fewn ein hamgylchedd cynhwysol a chefnogol, mae ein dysgwyr yn dilyn rhaglenni unigol i ddatblygu eu dysgu, sgiliau byw a hyder. Mae Tŷ Weston yng Nghampws Heol y Bontfaen ac mae’n cefnogi oedolion ifanc rhwng 16 a 25 oed.
O gael y gofal a chefnogaeth cywir yn eu lle credwn y gallwn helpu ein pobl ifanc i ffynnu, cyflawni eu huchelgais a “Bod yn bopeth y gallant fod”.
Mae Tŷ Weston wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a Kathryn Jones yw’r Rheolwr Cofrestredig. Gellir gweld adroddiadau arolygu y gorffennol ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru: www.careinspectorate.wales/our-reports Caiff Tŷ Weston hefyd ei arolygu gan Estyn.
Mae Tŷ Weston yn aelod cyswllt o NATSPEC, Cymdeithas Genedlaethol Colegau Arbenigol.
Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad os hoffech edrych o gwmpas Tŷ Weston a chwrdd â’n tîm cyfeillgar: