Mae ein seremonïau’n gyfle gwych i chi ddathlu eich llwyddiannau gyda ffrindiau a theulu, ac yn gyfle i aduno gyda’ch cyd-ddisgyblion a’ch tiwtoriaid.
Ymunwch â ni ar gyfer ein seremonïau Graddio Addysg Uwch 2025, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Hydref ar ein Campws Pencoed.
Mae’r holl wybodaeth sydd angen i chi ei gwybod isod, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau rydym yma i helpu! Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni drwy e-bostio graduation@bridgend.ac.uk
Bydd ein seremonïau Graddio Addysg Uwch yn cael eu cynnal ar ein Campws Pencoed (CF35 5LG).
Fe fyddwch eisoes wedi cael eich gwahodd i un o’r seremonïau canlynol:
11.00yb
Bydd y seremoni gyntaf yn dechrau am 11yb ac yn cael ei chynnal yn Awditoriwm yr Academi STEAM.
Ar ôl cyrraedd, ewch i’r prif floc addysgu i gofrestru sydd ar y dde ar ôl i chi fynd i mewn i’r campws. Gofynnir i ddarpar-raddedigion gyrraedd o 8.45yb er mwyn caniatáu amser ar gyfer gwisgo gynau, tynnu ffotograffau swyddogol, a lluniaeth. Gall gwesteion hefyd gyrraedd bryd hyn, neu’n agosach at amser dechrau’r seremoni os oes angen.
Bydd yr holl ddarpar-raddedigion yn cael eu galw erbyn 10yb i ymarfer y seremoni yn yr awditoriwm. Gofynnir i westeion aros yn yr ardal gofrestru yn ystod yr ymarfer.
Bydd gwesteion yn cael eu galw i’r awditoriwm, sydd ddim yn bell o’r ardal gofrestru, yn nes at amser dechrau’r seremoni.
Bydd y seremoni’n para tuag awr a hanner, a gofynnwn yn gwrtais i chi ddychwelyd eich gŵn yn brydlon ar ôl y seremoni.
1.30yp
Bydd yr ail seremoni yn dechrau am 1.30yp ac yn cael ei chynnal yn Awditoriwm yr Academi STEAM.
Ar ôl cyrraedd, ewch i’r prif floc addysgu i gofrestru, sydd ar y dde ar ôl i chi fynd i mewn i’r campws. Gofynnir i ddarpar-raddedigion gyrraedd o 11.15yb er mwyn caniatáu amser ar gyfer gwisgo gynau, tynnu ffotograffau swyddogol, a lluniaeth. Gall gwesteion hefyd gyrraedd bryd hyn, neu’n agosach at amser dechrau’r seremoni os oes angen.
Bydd yr holl ddarpar-raddedigion yn cael eu galw erbyn 12.30yp i ymarfer y seremoni yn yr awditoriwm. Gofynnir i westeion aros yn yr ardal gofrestru yn ystod yr ymarfer.
Bydd gwesteion yn cael eu galw i’r awditoriwm, sydd ddim yn bell o’r ardal gofrestru, yn nes at amser dechrau’r seremoni.
Bydd y seremoni’n para tuag awr a hanner, a gofynnwn yn gwrtais i chi ddychwelyd eich gŵn yn brydlon ar ôl y seremoni.
Byddwch yn cael gwahoddiad mewn e-bost oddi wrth ein partner, Ede and Ravenscroft. Bydd angen i chi archebu’ch tocyn a thocynnau i’ch gwesteion erbyn y dyddiad a nodwyd yn yr e-bost. Os na fyddwch yn archebu eich tocynnau erbyn y dyddiad a nodwyd, ni allwn warantu lle i chi yn y digwyddiad oherwydd cyfyngiadau o ran lle.
Gallwch ddod â hyd at 2 westai gyda chi, a fydd yn cael band arddwrn wrth gofrestru. Mae croeso i chi ddod â phlant, ond byddant yn eistedd gyda gwesteion. Os na allant eistedd ar lin, bydd angen eu sedd eu hunain arnynt (hyd at 2 sedd ar gael i bob darpar-raddedig).
Gallwch logi gŵn, cwfl a chap trwy wefan Ede and Ravenscroft a bydd manylion yn cael eu cynnwys mewn e-bost uniongyrchol oddi wrthyn nhw.
Sylwch, dim ond y rheini sy’n gwisgo gynau fydd yn cael eu caniatáu ar y llwyfan. Gwisgwch ddillad smart o dan eich gwisg academaidd a pheidiwch â gwisgo siorts, jîns na threinyrs.
Bydd costau llogi gwisg academaidd yn amrywio yn dibynnu ar lefel eich cymhwyster, ond bydd llogi trwy Ede and Ravenscroft yn costio rhwng £38 a £52 (cywir ar adeg cyhoeddi).
Bydd angen i chi ddarparu eich taldra a chylchedd eich pen i Ede and Ravenscroft. Mae rhagor o gyngor ar sut i fesur y rhain ar gael ar wefan Ede and Ravenscroft..
Bydd angen i chi wneud hyn erbyn y dyddiad a nodwyd yn yr e-bost gan Ede and Ravenscroft. Ar ôl y dyddiad hwn, dim ond ar ddiwrnod eich seremoni y byddwch yn gallu llogi gwisg academaidd.
Sylwch, bydd llogi ar y diwrnod yn ddrutach ac efallai na fydd y wisg academaidd gywir ar gael os nad ydych wedi archebu’ch gŵn ymlaen llaw.
Ar ôl cyrraedd, ewch i’r prif floc addysgu i gofrestru, sydd ar y dde ar ôl i chi fynd i mewn i’r campws. Gofynnir i ddarpar-raddedigion gyrraedd ar eu hamseroedd a neilltuwyd i ganiatáu amser ar gyfer gwisgo, tynnu ffotograffau swyddogol a lluniaeth. Gall gwesteion hefyd gyrraedd bryd hyn, neu’n agosach at amser dechrau’r seremoni os oes angen. Mae’ch amser cyrraedd wedi’i nodi uchod, yn seiliedig ar eich seremoni benodol.
Bydd ffotograffiaeth ffurfiol ar gael gan y cwmni gynau Ede and Ravenscroft. Gallwch archebu hyn ymlaen llaw wrth logi’ch gŵn ar-lein, neu benderfynu ar y diwrnod. Anogir i chi archebu ymlaen llaw i leihau ciwiau ar y diwrnod.
Yn ogystal â’r ffotograffiaeth graddio ffurfiol, bydd ffotograffydd swyddogol yn bresennol trwy gydol y dydd i dynnu lluniau a fydd yn cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion marchnata a hyrwyddo. Os nad ydych chi neu’ch gwesteion am gael eich cynnwys yn y lluniau hyn, rhowch wybod i aelod o staff yn syth ar ôl i chi gyrraedd.
Bydd ein seremonïau Graddio Addysg Uwch yn cael eu cynnal ar ein Campws Pencoed (CF35 5LG). Mae parcio ar gael ar y safle – dilynwch yr arwyddion a fydd yn eich cyfeirio at y meysydd parcio.
Mae lleoedd parcio i bobl anabl ar gael. Rhowch wybod i ni cyn y digwyddiad os oes angen lle parcio anabl arnoch a byddwn yn rhoi cyngor i chi.
Rhowch wybod i ni cyn y diwrnod os oes gennych chi neu’ch gwesteion unrhyw ofynion hygyrchedd trwy anfon ebost at graduation@bridgend.ac.uk
Mae ein llwyfan graddio yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a bydd ddarpar-raddedigion yn gallu gweld yr awditoriwm a’r llwyfan yn ystod yr ymarfer.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â graduation@bridgend.ac.uk