Saesneg i Oedolion (cyn TGAU)
Bydd y cwrs yma’n darparu amgylchedd dysgu cefnogol i’ch helpu i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau Saesneg. Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau Saesneg megis darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Gall lefel y dosbarth yma amrywio o lefel Mynediad 1 i Lefel 1 (sgiliau iaith sylfaenol i cyn-TGAU).
Mae’r modiwlau’n cynnwys:
Bydd asesiadau’n cael eu cynnal ar ddiwedd pob uned os yw’r tiwtor yn credu eich bod yn barod.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs yma, ond bydd y tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i i wneud yn siŵr mai hwn yw’r cwrs cywir i chi.
Mathemateg i Oedolion (cyn TGAU)
Dydd Mawrth 5:00 – 7:00, Campws Penybont
Bydd y cwrs yma’n darparu amgylchedd dysgu cefnogol i’ch helpu i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau Mathemateg. Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau Mathemateg megis datrys symiau, cynhyrchu graffiau a siartiau a deall sut y gellir cymhwyso mathemateg i fywyd pob dydd. Gall lefel y dosbarth yma amrywio o lefel Mynediad 1 i Lefel 1 (sgiliau sylfaenol i cyn-TGAU)
Mae’r modiwlau’n cynnwys:
Bydd asesiadau’n cael eu cynnal ar ddiwedd pob uned os yw’r tiwtor yn credu eich bod yn barod.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs yma, ond bydd y tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i i wneud yn siŵr mai hwn yw’r cwrs cywir i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, anfonwch e-bost at abond@bridgend.ac.uk