Mae’r Clwb Coffi yn lle bywiog eto hamddenol i fwynhau cwpanaid wych o goffi a danteithion cartref.
Mae’r Clwb Coffi ar agor i’r cyhoedd bum diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor. Mae ein bwydlen yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd oer a thwym i’w bwyta mewn neu allan, ynghyd â detholiad o ddanteithion ysgafn a theisennau cartref. Rydym yn falch i weini coffi wedi’i rostio’n lleol gan Coaltown. Mae ein te prynhawn ffres hefyd yn boblogaidd iawn felly p’un ai ydych yn cwrdd â ffrind, cael cyfarfod busnes neu ddim ond eisiau eistedd a mwynhau llyfr, mae’r Clwb Coffi yn rhoi’r amgylchedd perffaith.
Mae ein siop goffi yn rhoi amgylchedd gwaith pwysig ar gyfer rhai o’n myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Mae myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ar y swydd a chefnogaeth gan diwtor a hyfforddydd swydd profiadol iawn, gan gwblhau hyfforddiant Batista a thystysgrif hylendid bwyd fel rhan o’u rhaglen. Yn ystod yr hyfforddiant, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau craidd pwysig, yn cynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, hyder ac effeithlonrwydd personol.
Amserau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener, 10am – 2pm (yn ystod y tymor yn unig)
Lleoliad: Coleg Penybont, Campws Penybont, CF31 3DF
Rydym hefyd yn cynnig:
Os hoffech holi am logi preifat neu gynnal digwyddiad yn y Clwb Coffi, cysylltwch â Jemma Smith (jlsmith@bridgend.ac.uk) os gwelwch yn dda.