Mae gennym gynlluniau i agor datblygiad newydd 13,100 medr sgwâr yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel rhan o’n rhaglen datblygu helaeth yng Nghampws Pencoed oedd yn cynnwys agor ein Hacademi STEAM £30m ym mis Medi 2021, caiff canol y campws ei drawsnewid yn plaza aml-ddefnydd. Bydd hyn yn cynnwys gerddi synhwyraidd, gardd law ynghyd ag ardal fwyta awyr agored gyda tho gwyrdd bywlys. Y canolbwynt fydd amffitheatr fydd yn galluogi cynnal addysgu a digwyddiadau awyr agored gysgod.
Rydym wedi sicrhau Cyllid Cynnal ac Offer Carbon Sero Net Llywodraeth Cymru i drosi annedd 3 ystafell wely yng Nghampws Pencoed yn dŷ arddangos carbon isel.
Bydd y tŷ yn gyfleuster addysgu ar gyfer ein myfyrwyr fydd yn eu galluogi i weld cynaliadwyedd yn dod yn fyw mewn lleoliad ymarferol, ac ysbrydoli eraill am gyfleoedd carbon isel. Bydd myfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol hefyd yn defnyddio’r tŷ i’w galluogi i ddatblygu sgiliau annibyniaeth pwysig o fewn gosodiad cartref.
Buom yn gweithio mewn cysylltiad â’r tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i fanteisio o’u harbenigedd mewn ôl-osod cartrefi.