Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi’r rhai sy’n ateb y meini prawf i gael mynediad i gyrsiau a chymwysterau proffesiynol am ddim sy’n datblygu sgiliau ac yn eu helpu i sicrhau cynnydd neu newid eu gyrfa.
Mae’r cyrsiau yn darparu’r sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr lleol yn edrych amdanynt. Maent yn canolbwyntio ar sectorau sy’n tyfu yn y rhanbarth a lle mae angen pobl gyda’r sgiliau hyn. Wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg a gweithio o’ch amgylch chi a’ch ymrwymiadau, y nod ar ddiwedd y cwrs a astudiwch yw y bydd swyddi ar gyflog da i chi wneud cais amdanynt.
Mae’n rhaid i chi fod:
Yn ychwanegol mae’n rhaid i chi gyflawni o leiaf un o’r meini prawf dilynol:
Nid yw unigolion yn gymwys os ydynt adeg gwneud cais:
Er y gallech fod yn gymwys am gyllid ar gyfer mwy nag un cwrs Cyfrif Dysgu Personol, dim ond un cais fesul person y gallwn ei dderbyn ar y tro. Os yw cais yn llwyddiannus am gwrs, mae’n rhaid i chi orffen y cwrs hwn cyn dechrau cwrs arall.
Os ydych yn ansicr pa gwrs fyddai fwyaf addas i chi, neu os hoffech gyngor ac arweiniad ar ddatblygu eich gyrfa, gallwch drefnu i siarad gydag un o’n Hyfforddwyr Gyrfa arbenigol. Y cyfan sy’n rhaid i chi wneud yw llenwi ein ffurflen ymholiad a bydd un o’n Hyfforddwyr Gyrfa yn cysylltu â chi.