Gallwch astudio ESOL o Mynediad 1 i Lefel 2. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ESOL yn astudio yn ystod y dydd, ond rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau min nos. Gallwch ddewis rhwng:
16 awr yr wythnos (Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3)
Daw myfyrwyr dydd llawn-amser i’r coleg 3 diwrnod yr wythnos. Mae’r dosbarthiadau hyn yn cychwyn ym mis Medi ac yn parhau am 34 wythnos. Mae dosbarthiadau dydd rhwng 9am a 4pm.
6.5 awr yr wythnos (Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3 neu Lefel 1)
Daw myfyrwyr rhan-amser yn ystod y dydd i’r coleg am 1.5 diwrnod yr wythnos. Mae’r dosbarthiadau hyn yn dechrau ym mis Medi a mis Ionawr ac yn parhau am 15 wythnos.
Daw myfyrwyr rhan-amser min nos i’r coleg am 2 awr yr wythnos rhwng 6pm a 8pm yn ystod un min nos (Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1 neu Lefel 2). Mae’r dosbarthiadau hyn yn cychwyn ym mis Medi a mis Ionawr ac yn parhau am 15 wythnos.
Mae pob cwrs yn arwain at gymwysterau sy’n naill ai ESOL, City & Guilds neu Agored Cymru.
Mae ein cyrsiau ESOL yn cynnwys pob un o 4 sgil:
Caiff gramadeg a geirfa eu datblygu yn yr ystafell ddosbarth a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddewis y pynciau sy’n bwysig iddynt, yn arbennig yn eu bywyd bob dydd.
I wneud yn siŵr eich bod yn astudio ar y lefel gywir, gofynnir i chi fynychu cyfweliad lle byddwn yn gwirio eich sgiliau siarad a gwrando a hefyd yn gosod asesiad ysgrifennu a darllen byr.
Llenwch y ffurflen islaw os gwelwch yn dda i drefnu eich lle ar gyfer prawf.
Mae’r cyrsiau hyn yn RHAD AC AM DDIM* ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr, e.e. preswylwyr sefydlog sydd wedi ymfudo o’r Undeb Ewropeaidd, ffoaduriaid a phobl yn ceisio lloches. Gall pobl ar fisa cymar hefyd fod â hawl i wersi am ddim. Gellir codir tâl ar gyfer rhai myfyrwyr, yn dibynnu ar y math o fisa sydd gennych. Yn anffodus, ni fedrwn dderbyn pobl sydd â fisa myfyriwr neu ymwelydd.
Bydd gwybodaeth am ffioedd, faint a phryd a sut i dalu eu rhoi yn eich apwyntiad cyntaf pan fyddwch yn cwblhau eich prawf iaith Saesneg.
*Mae ffi cofrestru o £40.