Mae Coleg Penybont yn Goleg Addysg Bellach sy’n cefnogi mwy na 7,500 o fyfyrwyr ac yn cyflogi dros 750 aelod o staff ar draws ein pedwar campws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pencoed a Heol y Frenhines.
O ddechreuadau bach yn 1928, rydym wedi tyfu i ddod yn ddarparydd addysg mawr a chyflogwr pwysig yn yr ardal, gan gynnig dewis eang o gyrsiau mewn nifer o feysydd galwedigaethol a lefelau.
Our courses range from GCSEs to Honours Degrees and we offer part-time and full-time study opportunities. We offer a portfolio of higher education programmes, working in partnership with Cardiff Metropolitan University and as a collaborative partner of the University of South Wales. We also offer higher education courses awarded by Pearson and CPCAB.
Gweithiwn yn agos gyda busnesau a chyflogwyr. Rydym eisiau i fusnesau ffynnu mewn economi leol ffyniannus a chydnerth, a medru cael mynediad i lif talent ansawdd uchel ar garreg eu drws. Gall ein hyfforddiant pwrpasol a chyfleoedd hyblyg helpu sefydliadau i hybu llwyddiant economaidd a sicrhau twf.
Mae ein cenhadaeth yn syml – byddwch yn bopeth y gallwch fod. Byddwch yn chi.
Caiff ein gwerthoedd eu cyfnerthu ledled cymuned y coleg. Mae pob aelod o staff, dysgwr a phartner yn byw ac anadlu’r gwerthoedd creiddiol dilynol sy’n ffurfio pob agwedd o fywyd y Coleg:
Fel rhan o Addewid ein Rhaglen Ddysgu, rydym yn ymroddedig i ddatblygu sgiliau galwedigaethol a chreiddiol ein myfyrwyr, yn ogystal â’u helpu i wella eu twf a datblygiad personol. Yn ôl am hynny, gofynnwn i fyfyrwyr gytuno â’n Cod Dinasyddiaeth Myfyrwyr i gyflawni ein hymddygiad dysgu:
Mae ein myfyrwyr yn rhan o gymuned ddeinamig, amrywiol a chreadigol sy’n coleddu ein gwerthoedd dysgu.
Darllenwch fwy am ein gweledigaeth a gwerthoedd sy’n llywio Coleg Penybont ar gyfer ein dysgwyr a staff.
































































