Gall astudio yn y coleg olygu costau i chi. Efallai y bydd llyfrau i’w prynu, tocynnau teithio a chostau gofal plant ychwanegol. Mae costau ychwanegol ar rai o’n cyrsiau, er enghraifft ar gyfer offer arbenigol sydd ei angen i astudio’r cwrs – caiff y rhain eu hamlinellu ar bob tudalen cwrs.
Mae Llywodraeth Cymru a’r Coleg yn darparu ystod o gronfeydd i’ch helpu i dalu am y gwahanol gostau yn gysylltiedig gyda’ch astudiaethau:
I fod yn gymwys am unrhyw gyllid, mae’n rhaid i chi fod:
Dylid nodi fod yr holl gyllid a ddyfernir yn amodol ar fynychu a gellir ei atal ar unrhyw amser os yw mynychu yn is na 90%. Gall unrhyw o’r meini prawf ar gymorth ariannol a amlinellir yn yr adran hon gael eu newid.
Mae EMA yn daliad wythnosol o gymorth i gefnogi dysgwyr 16-18 oed gyda chostau astudio. Caiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc bob dwy wythnos os ydych wedi cyflawni’r gofynion mynychu.
Ni fydd EMA yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych chi neu’ch teulu eisoes yn eu derbyn.
Gallwch wneud cais am EMA os yw’r cyfan o’r dilynol yn wir amdanoch chi:
|
I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais ewch i cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
|
|
Ffurflen Cytundeb LCA
|
Mae FCF ar agor i bob myfyriwr llawn-amser. Gall FCF eich cefnogi gyda pheth o gost gofal plant, cinio, offer cwrs, cost teithio neu wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae cymhwyster am FCF yn dibynnu ar incwm eich aelwyd.
Sut gall FCF helpu?
Dan 19 | Dros 19 | |
Costau Teithio | Ie | Ie |
Ffioedd Gofal Plant | Ie | Ie |
Costau cysylltiedig â chwrs (e.e. offer / llyfrau) | Ie | Dim ond os nad ydych yn derbyn WGLG |
Cymhorthdal prydau bwyd | Ie | Na (ar wahân i achosion arbennig) |
Costau teithio: Gall FCF eich helpu tuag at gost pas bws neu dreuliau yn dibynnu ar eich oedran ac o ble’r ydych yn teithio.
Costau gofal plant: gallwch dderbyn uchafswm dyraniad o £42 y dydd am fynychu tuag at gostau ffioedd gofal plant, ar gyfer un plentyn yn unig. Gallwch ddefnyddio Meithrinfa Ddydd Coleg Penybont, neu Ofalwr Plant neu Feithrinfa gofrestredig.
Dylid nodi fod yr holl gyllid a ddyfernir yn amodol ar fynychu a gellir ei atal ar unrhyw amser os yw mynychu yn is na 90%. Gall unrhyw o’r meini prawf ar gymorth ariannol a amlinellir yn yr adran hon gael eu newid.
Costau cysylltiedig â chwrs: Gall FCF eich helpu tuag at gost offer hanfodol ar gyfer eich cwrs.
Cymhorthdal prydau bwyd: Os ydych yn 16-18 oed a’ch bod chi neu eich rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn budd-daliadau cymwys, gallwch dderbyn lwfans prydau dyddiol yn werth £3.50 y diwrnod. Ewch i https://www.bridgend.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-ac-addysg/grantiau-i-ddisgyblion/ i wirio os ydych yn gymwys.
Rydym yn cynnig brecwast am ddim ym mhob Campws ar gyfer pob dysgwr rhwng 8.15am-9.30am.
|
Ffurflen Cronfa Ariannol wrth Gefn
|
Os ydych yn 19 oed neu hŷn ac yn astudio ar gwrs llawn-amser, gallech gael hyd at £1,500 (neu hyd at £750 am gwrs rhan-amser), yn dibynnu ar incwm eich aelwyd.
Gallwch wneud cais am WGLG os yw’r cyfan o’r dilynol yn wir amdanoch chi;
I gael mwy o wybodaeth ar Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru neu i lawrlwytho cais, ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae pecynnau cais hefyd ar gael gan ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr o fis Ebrill ar gyfer y flwyddyn astudiaeth academaidd ddilynol:
|
Ffurflen Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru
|
Gallai Dyfarniad Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog eich helpu tuag at gostau cysylltiedig â chwrs ac nid oes prawf modd arno.
|
Mwy o wybodaeth am Ddyfarniad Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog
|
Dylid rhoi adroddiad am bob absenoldeb drwy anfon e-bost at absence@bridgend.ac.uk neu ffonio 01656 302 302. Mae’n rhaid rhoi adroddiad am absenoldeb o fewn 2 diwrnod gwaith.
Gwneir taliadau ar gyfer:
Ni chaiff taliadau eu gwneud ar gyfer gwyliau, absenoldeb na roddwyd adroddiad amdano neu absenoldeb tostrwydd mynych (mwy na 3 achos o dostrwydd mewn tymor).
Mae cyllid yn dibynnu ar oedran ac incwm aelwyd. Mae’r grid isod yn rhoi trosolwg o’r cyllid Addysg Bellach sydd ar gael.
Cronfa | Oedran Cymhwyster | Trothwy Incwm | Diben y cyllid | Cyllid arall y gellir gwneud cais amdano |
Cronfa Ariannol wrth Gefn (FCF) | 16+ | £30k | Costau cysylltiedig â chwrs, cymhorthdal prydau bwyd, gofal plant, cludiant | 16-18 EMA 19+ WGLG |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) | 16-18 | 1 plentyn dibynnol £20,817 Mwy nag 1 plentyn dibynnol £23,077 | Cymhelliant mynychu | FCF ar gyfer costau cysylltiedig â chwrs, prydau bwyd, gofal plant a chludiant |
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) | 19+ | £18,370 | Costau cysylltiedig â chwrs | FCF ar gyfer gofal plant a chludiant yn unig |
Bydd angen i chi fod yn astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos i fod yn gymwys am EMA.
Ar gyfer WGLC mae angen i chi fod yn astudio am o leiaf 275 awr (9½ awr dros gyfnod 30 wythnos) i fod yn gymwys am yr elfen ran-amser, a dros 500 awr i fod yn gymwys am yr elfen lawn-amser.
Yn y rhan fwyaf o achosion, na. Os cawsoch EMA y llynedd a’ch bod dan 19 oed cyn 31 Awst yna caiff eich cais ei ymestyn. Y cyfan fydd yn rhaid i chi wneud yw cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) ar 0300 200 4050 i gadarnhau eich bod yn dychwelyd i’r Coleg. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn llofnodi eich cytundeb dysgu EMA o fewn 8 wythnos o ddyddiad dechrau’r cwrs i gael ei ôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Os ydych yn 19 oed cyn 31 Awst ac wedi derbyn EMA am y 3 blynedd flaenorol, bydd angen i chi wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) yn lle hynny.
Gallwch lawrlwytho’r pecyn cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/
Mae pecynnau cais ar gael o ardaloedd derbyn Campysau Penybont a Phencoed.
Na, y cyfan sydd angen i chi wneud yw cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0300 200 4050 i ddweud wrthynt eich bod yn dychwelyd i’r Coleg. Byddant wedyn yn anfon ffurflen manylion ariannol i chi ei llenwi. Bydd angen i chi symud ymlaen i gwrs lefel uwch i fod yn gymwys, er os yw’r cwrs newydd y bwriadwch ei astudio yn ategu’r cwrs yr ydych newydd ei orffen e.e. Trin Gwallt Lefel 2 i Harddwch Lefel 2 gallech fod yn gymwys. Bydd angen i chi gwblhau eich Cytundeb Dysgu o fewn 9 mis o ddechrau eich cwrs.
Ni fydd grant EMA / WGLG yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi neu’ch teulu yn eu derbyn..
Oes – nid yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu i sefydliadau ymrwymo ar unrhyw ddyfarniadau blwyddyn ar flwyddyn i fyfyrwyr.
Gallwch, gallwch ddal wneud cais ac os yn gymwys byddwch yn derbyn yr un gyfradd ag a dalwn i Feithrinfa Ddydd Coleg Penybont.
Gallwch, rydym yn dilyn yr un canllawiau ar gyfer cymhwyster â’r Awdurdod Addysg Lleol. Os ydych yn 16-18 oed dylech fod yn gymwys am gymhorthdal prydau bwyd yn y Coleg os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau/taliadau cymorth dilynol:
Gwneir cais am hyn drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn.
Mae’r Coleg yn codi ffi hyfforddiant blynyddol am gyrsiau addysg uwch. Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr wneud cais am fenthyciad ffi hyfforddi ad-daladwy o hyd at £9,000 ar gyfer cyrsiau llawn-amser. Bydd angen i fyfyrwyr sy’n cymryd y benthyciad ffi hyfforddi i ddechrau ad-dalu ar ôl gorffen eu cwrs ac yn ennill o leiaf £524 yr wythnos neu £2,274 y mis. Mae mwy o wybodaeth am ad-daliadau ar gael ar wefan berthnasol cyllid myfyrwyr.
Dylid nodi: ni chaiff ffioedd hyfforddi eu gosod ar gyfer hyd y cwrs a gallant gynyddu flwyddyn-ar-flwyddyn.
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys am gyllid tuag at eu ffioedd hyfforddiant, cyn balled nad ydynt wedi astudio’n flaenorol ar lefel addysg uwch a’u bod yn ateb gofynion preswyliaeth. Ar gyfer ymholiadau am gymhwyster cysylltwch yn uniongyrchol â Cyllid Myfyrwyr Cymru neu fynd i’w gwefan https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/
Os ydych yn defnyddio benthyciad ffi dysgu i dalu am eich ffioedd dysgu, bydd angen i chi ddod â’ch dogfennau hysbysiad ariannol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) i’r sesiwn ymrestru. Os ydych yn talu’r ffioedd hyfforddiant eich hun, gallwch naill ai dalu’r swm llawn ymlaen llaw neu dalu mewn rhandaliadau os dymunwch. Os oes noddwr yn talu eich ffioedd, bydd angen i chi ddod â llythyr gan eich noddwr yn cadarnhau hyn i’r sesiwn ymrestru.
Mae benthyciadau a grantiau cynhaliaeth ar gael i’ch helpu gyda chostau byw. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a ble’r ydych yn byw. Gallech hefyd fod yn gymwys am help ariannol ychwanegol os ydych yn ateb rhai meini prawf. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan berthnasol cyllid myfyrwyr.
Dylai ymgeiswyr yn byw yng Nghymru fynd i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Dylai ymgeiswyr sy’n byw tu allan i Gymru gysylltu â’ch cyngor cyllid myfyrwyr.
Gofynnir i chi nodi ei bod yn bwysig i chi wneud cais am gymorth ariannol tuag at eich ffioedd dysgu i’r corff priodol cyn ymrestru ar eich cwrs. Bydd methiant i wneud cais am gyllid neu roi dull arall o dalu yn arwain at i’r Coleg anfon anfoneb i chi am y ffioedd. Mae myfyrwyr yn atebol am unrhyw ran o’r ffioedd na chânt eu talu gan y cyrff uchod. Os ydych yn gadael y coleg cyn gorffen eich cwrs, byddwch yn atebol am dalu’r ffioedd hyd at y tymor olaf i chi fynychu.
Os ydych yn astudio cwrs dan ffransais gan Brifysgol De Cymru, maent eisiau eich helpu i gyflawni eich uchelgais.
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig Bwrsariaeth Cynnydd i fyfyrwyr coleg sy’n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen gydag achrediad Prifysgol De Cymru i radd anrhydedd lawn drwy gwrs atodol yn un o’u campysau. Yn werth £500, gallai’r fwrsariaeth roi cymorth ariannol tuag at eich costau teithio, byw ac astudio tra’ch bod yn yn astudio mewn campws Prifysgol De Cymru. Nid oes prawf modd ar y fwrsariaeth.
Caiff ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru eu cynnig ar y sail y gallant newid pe byddai newid i’r system ffioedd a chymorth myfyrwyr sy’n weithredol yng Nghymru. Mae’r Brifysgol hefyd yn cadw’r hawl i gyfyngu nifer yr ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau sydd ar gael.
I ganfod mwy, ewch i wefan Prifysgol De Cymru.
Caiff ffioedd cwrs eu cyfrifo bob blwyddyn academaidd a gallant godi yn unol â pholisi partner cydweithio addysg uwch. Felly, os yw’ch cwrs am fwy nag un flwyddyn, bydd ffioedd cwrs i’w talu ym mhob blwyddyn ychwanegol o astudiaeth.
Gellir talu holl ffioedd hyfforddiant cyrsiau rhan-amser amser ymrestru neu drwy randaliadau. Os yw eich cyflogwr neu noddwr yn talu eich ffioedd, bydd angen i chi ddod â llythyr gan eich cyflogwr/noddwr yn amlinellu hyn i’ch sesiwn ymrestru.
Bydd myfyrwyr rhan-amser cymwys yn medru gwneud cwrs am Fenthyciad Ffi Dysgu heb brawf modd i dalu am ffioedd y cwrs. Mae gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn amlinellu’r ystod cymorth ariannol sydd ar gael. Caiff pob cais ei asesu yn unigol a gall myfyrwyr gael mynediad i fenthyciadau a grantiau yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol.
Gall israddedigion tro cyntaf cymwys sy’n astudio’n rhan-amser wneud cais am gymorth ar gyfer costau byw ar sail pro-rata. Mae’r cymorth yn gyfuniad o grantiau (Grant Cynhaliaeth) a benthyciadau (Benthyciad Cynhaliaeth), yn debyg i fyfyrwyr llawn-amser. Os ydych yn ateb y meini prawf ar gymhwyster, bydd swm y grant a’r benthyciad a gewch yn dibynnu ar natur eich cwrs ac incwm eich aelwyd.
Gallech gael cyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall y cyllid ychwanegol hwn gynnwys:
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/
Gofynnir i chi nodi ei bod yn bwysig i chi wneud cais am gymorth ariannol tuag at eich ffioedd dysgu i’r corff priodol cyn ymrestru ar eich cwrs. Bydd methiant i wneud cais am gyllid neu roi dull arall o dalu yn arwain at i’r Coleg anfon anfoneb i chi am y ffioedd. Mae myfyrwyr yn atebol am unrhyw ran o’r ffioedd na chânt eu talu gan y cyrff uchod. Os ydych yn gadael y coleg cyn gorffen eich cwrs, byddwch yn atebol am dalu’r ffioedd hyd at y tymor olaf i chi fynychu.