Mae DFN Project SEARCH yn dathlu ei ail Ddiwrnod Interniaeth â Chymorth Cenedlaethol blynyddol heddiw, 27 Mawrth, i godi ymwybyddiaeth o’r effaith gadarnhaol y mae interniaethau â chymorth yn ei chael ar unigolion, sefydliadau, a chymunedau yn gyffredinol.
Mae Coleg Penybont wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â DFN Project SEARCH, Hft ac ELITE Supported Employment ers sawl blwyddyn ac mae wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleoedd gorau posibl i bob un o’i fyfyrwyr. Mae Ysbyty Tywysoges Cymru, sydd wedi’i leoli yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr ac sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn un o ddau sefydliad cynnal y mae’r Coleg yn gweithio gyda nhw i weithredu’r rhaglen. Y llynedd, ymwelon ni â Phs Group yng Nghaerffili i ddathlu’r Diwrnod Interniaeth â Chymorth Cenedlaethol cyntaf.
Mae’r ddau sefydliad yn cyflogi wyth myfyriwr bob blwyddyn ac yn cynnig amrywiaeth o rolau a phrofiadau cyflogaeth i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a llywio eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol.
“Roeddwn i eisiau cael swydd â thâl un diwrnod ond roeddwn i’n gwybod bod angen hyder ac ychydig o anogaeth arnaf. Felly, ar ôl rhywfaint o ysbrydoliaeth, penderfynais wneud cais am y cwrs DFN Project Search.
Hyd yn hyn mae wedi bod yn daith anhygoel wrth i mi dyfu fy hyder a dod i nabod y lle, nabod fy nghydweithwyr a gweithio mewn tîm – mae wedi bod yn dipyn o brofiad.”
Morgan Griffiths, Intern gyda DFN Project SEARCH
Mae’r rhaglen interniaeth yn cyd-fynd â’r flwyddyn academaidd. Yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mae interniaid yn treulio tair wythnos i ddechrau yn gwneud gweithgareddau cynefino yn yr ystafell ddosbarth ac yn addasu i amgylchedd y cwmni sy’n eu cynnal cyn dechrau eu cylchdroadau cyntaf. Mae pob cylchdro yn lleoliad gwaith 10 wythnos wedi’i leoli mewn gwahanol ardaloedd ar draws yr ysbyty, o adrannau gweinyddol i wardiau.
Mae’r agwedd ddeinamig hon at leoliadau yn galluogi’r interniaid i elwa o ystod o brofiadau gwaith tra hefyd yn deall sut beth yw bod yn weithiwr cyflogedig. Cânt gyfle i ennill sgiliau gwaith wrth gynyddu eu hyder gyda’r nod, ar ôl cwblhau’r rhaglen, o fod yn barod i ddod o hyd i waith a byw bywydau annibynnol.
Ym mis Tachwedd 2023, cafodd Ysbyty Tywysoges Cymru ei gydnabod am ragoriaeth wrth i dros 70% o’i fyfyrwyr sicrhau cyflogaeth ar ôl cwblhau’r rhaglen interniaeth.
Mae’r rhaglen yn dilyn cwricwlwm cyflogadwyedd DFN Project SEARCH sy’n canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer y gweithle a byw’n annibynnol. Mae gan interniaid y fantais o astudio’r sgiliau hyn yn eu cyd-destun, gan eu galluogi i’w cymhwyso yn y gweithle. Y meysydd allweddol i’w datblygu yw cyfathrebu, technoleg, sgiliau cymdeithasol, cadw swydd, ymgeisio am swyddi, iechyd a llesiant, a llythrennedd ariannol.
“O’m safbwynt i, mae nid yn unig o fudd i’r interniaid o ran cael profiad gwaith, ond mae hefyd yn helpu i newid canfyddiadau a syniadau a allai fod gan bobl am bobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Pan fyddwch chi’n treulio amser yn gweithio gyda rhywun sydd ag anghenion dysgu ychwanegol efallai y byddwch chi’n meddwl ‘maen nhw’n fwy galluog nag oeddwn i’n meddwl yn wreiddiol’, ac mae’n helpu’r sefydliad i feithrin cynhwysiant a deall weithiau bod yna lwybrau gwahanol i gyflawni’r un canlyniad.”
Zoë Shields, Tiwtor ac Asesydd yr Interniaeth â Chymorth yng Ngholeg Penybont
Elusen yw DFN Project SEARCH sy’n sy’n galluogi oedolion ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, awtistiaeth neu’r ddau i dderbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith ar y safle. Mae eu rhaglen un flwyddyn yn helpu pobl i ennill sgiliau gwerthfawr a gwella eu siawns o ddod o hyd i waith cyflogedig. Nod yr elusen yw cefnogi dros 10,000 o bobl i sicrhau gwaith cyflogedig erbyn 2030.
I weld sut y gall Coleg Penybont eich cefnogi chi a rhoi hwb i’ch gyrfa, gwelwch raglenni interniaeth â chymorth DFN Project SEARCH gydag Ysbyty Tywysoges Cymru a phs Group.
I ddysgu mwy am DFN Project SEARCH a sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i www.dfnprojectsearch.org
































































