Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Addysg Sylfaenol i Oedolion
Addysg Sylfaenol i Oedolion (ASO)
Addysgu ac Addysg
Adeiladwaith
Amaethyddiaeth, Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad
Arlwyo a Lletygarwch
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Astudiaethau Plentyndod
Busnes a Chyfrifeg
Camu Ymlaen
Ceffylau
Celf, Dylunio a Chyfryngau Creadigol
Cerbyd Modur
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Chwaraeon
Cwnsela
Cyflogadwyedd
Cyfrifiaduro, TG a Seiber
Digidol/TG
Dylunio Gerddi a Thirlunio Proffesiynol
ESOL
Gofal Anifeiliaid
Gwallt, Harddwch a Therapïau Ategol
Gwasanaethau Brys, mewn Lifrai a Chyhoeddus
Gwyddoniaeth
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ieithoedd
Llythrennedd
Logisteg
Mathemateg
Mynediad i Addysg Uwch
NPTC
Peirianneg
Rhifedd
Saesneg
Safonnau
Seicoleg
Sgiliau
Sgiliau Byw Annibynnol
Teithio a Thwristiaeth
Troseddeg
Welsh

Busnesau a Chyflogwyr

Mae gennym gysylltiadau cryf gyda llu o fusnesau ledled Cymru ac ymhellach i ffwrdd. Drwy gysylltu gyda chyflogwyr, rydym yn ymroddedig i wella cynhyrchiant lleol a chenedlaethol. Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn hanfodol i dwf Coleg Penybont, datblygu ein cyrsiau a datblygiad economaidd strategol y rhanbarth. 

Rydym eisiau i fusnesau ffynnu mewn economi lleol cryf a chydnerth, a medru cael mynediad i lif talent ansawdd ar garreg eu drws. Gall ein hyfforddiant pwrpasol a chyfleoedd hybu eich helpu i yrru llwyddiant economaidd a sicrhau twf. 

Ymgysylltu gyda thalent 

Mae ein hyb gyrfaoedd blaengar Cyfleoedd yn sicrhau fod rhaglen gyrfaoedd diddorol ac amrywiol yn ganolog i’r gweithgaredd dysgu yng Ngholeg Penybont. Gallwn helpu cyflogwyr gysylltu gyda gweithlu’r dyfodol a’u helpu i ddatblygu eu sgiliau. Mae opsiynau yn cynnwys: 

  • Darparu dosbarth meistr i grŵp o fyfyrwyr 
  • Cynnig cyfle lleoliad gwaith neu ‘brosiect byw’ ar gyfer myfyrwyr i’w gwblhau 
  • Darparu ymweliadau safle a theithiau i helpu myfyrwyr gael cipolwg ar fyd gwaith 
  • Cysgodi swyddi neu gyfleoedd interniaeth 
  • Cystadlaethau a chyfleoedd entrepreneuriaeth 
  • Mentora neu hyfforddi myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr 
  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddol o fewn eich busnes 

Hyfforddi prentis 

Caiff prentisiaethau eu cyllido’n llawn, a chânt eu cynllunio o amgylch anghenion eich busnes a gallant helpu i drawsnewid eich sefydliad drwy gynnig llwybr i harneisio thalent newydd ffres. Gall fod yn gyfle i gynyddu sgiliau aelod presennol o staff neu i gyflogi aelod newydd o’r tîm fel prentis. 

Mae manteision cynyddu sgiliau neu recriwtio prentis yn cynnwys: 

  • Datblygu gweithlu medrus, proffesiynol 
  • Darparu cyfleoedd i ehangu eich busnes 
  • Gwella cynhyrchiant a gostwng costau busnes 
  • Meithrin talent i wella gwasanaethau 

Gall fod cymhellion ariannol i gyflogwyr i recriwtio prentis a gallwn roi arweiniad drwy bob cam o’r broses. 

Ewch i’n tudalennau Prentisiaethau i ddysgu mwy.

Cymorth recriwtio 

Rydym yn cynnig gwasanaeth hysbysebu swyddi am ddim a gallwn helpu i rannu eich swyddi gwag drwy ystod o ddulliau yn ein rhwydwaith helaeth. 

  • Bwrdd swyddi agored drwy Cyfleoedd 
  • Mynediad i hysbysebion gwefan allanol, yn cynnwys Gwasanaeth Swyddi Gwag Prentisiaethau y Llywodraeth 
  • Gwahoddiadau i’n digwyddiadau gyrfaoedd coleg neu weithgareddau recriwtio arbenigol 
  • Recriwtio wedi ei dargedu ar grwpiau neu unigolion penodol 
  • Cysylltu â chi gyda phrosiectau lleol sy’n cefnogi ceiswyr swydd 
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol sy’n ennyn diddordeb ar draws ein sianeli 
  • Cymorth i gael  mynediad i unrhyw raglenni a gyllidir 

Datblygu eich staff cyfredol 

P’un ai ydych yn dymuno cynyddu sgiliau neu ailhyfforddi eich staff, neu’n dymuno gwella eich sgiliau eich hun, mae gennym ystod eang o raglenni ar gael yn dibynnu ar eich anghenion. Maent yn cynnwys: 

  • Cyfrifon Dysgu Personol 
  • Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch 
  • Cyrsiau pwrpasol ac agored gydag opsiynau hyblyg a fforddiadwy 

Mae’r cyfan uchod yn cynnig rhaglenni hyfforddiant hyblyg, a gyllidir yn llawn y gellir eu teilwra i anghenion eich busnes. Mae cyrsiau yn amrywio o sesiynau blasu byr hyd at gymwysterau lefel uwch sy’n cwmpasu un neu ddwy flwyddyn academaidd. Gallwch gael mynediad i gynifer o raglenni ag ydych angen a gall eich staff sicrhau cynnydd drwy wahanol gyrsiau fel rhan o’u taith ddysgu. 

I gael cyngor ac arweiniad, cysylltwch â: PTandCommercial@bridgend.ac.uk

Rydym yn awyddus i gysylltu gyda myfyrwyr a staff i’n cefnogi wrth gysylltu addysg a byd cyflogaeth.” 

Nicola Millard, Willmott Dixon

Digwyddiadau rhwydweithio busnes 

Cynigiwn ystod o gyfleoedd busnesau brecwast a rhwydweithio drwy gydol y flwyddyn. Caiff llawer o’n digwyddiadau rhwydweithio eu cynnal gan weithwyr proffesiynol blaenllaw ac entrepreneuriaid ac yn cynnwys themâu a thueddiadau busnes allweddol. 

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfleoedd i chi gysylltu gyda busnesau lleol eraill a darpar gleientiaid i sefydlu eich rhwydwaith cymorth eich hun. Peidiwch â cholli ein digwyddiadau – cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr busnes drwy anfon e-bost at:  hello@bridgend.ac.uk

Siaradwch gyda ni 

Os hoffech ganfod mwy neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, cysylltwch gyda ni ar hello@bridgend.ac.uk 

Drwy weithio’n agos gyda Choleg Penybont, gallwn helpu i gyflawni bywydau ein staff, gwirfoddolwyr a hyfforddieon drwy eu cyfleoedd dysgu rhagorol seiliedig ar waith.” 

Helen Cook, Awen Cultural Trust
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn