Ar hyd eich taith gyda Choleg Penybont byddwn yn casglu, prosesu, cadw a rheoli data yn ymwneud â gwybodaeth bersonol, statws meddygol/iechyd, anghenion dysgu ychwanegol, hanes addysgol a hanes cyflogaeth. Byddwn hefyd yn buddsoddi diddordeb mewn data yn gysylltiedig â’ch cynnydd, presenoldeb, llwyddiant, llesiant a diogelu ar gyfer unrhyw gwrs/cyrsiau yr ydych yn ymrestru arnynt.
Drwy ymrestru yng Ngholeg Penybont rydych yn rhoi caniatâd penodol i’r data hwn gael ei gasglu amdanoch a’i gadw yn system y Coleg. Caiff y data a gedwir ei ddefnyddio ar gyfer dibenion cyllid, ystadegol, gweinyddol a monitro cydraddoldeb. Dim ond cyhyd ag mae ei angen y bydd Coleg Penybont yn cadw eich gwybodaeth a bydd yn ei dileu yn unol â’r rhestr cadw.
Dan Reoleiddiad Diogelu Data Cyffredinol 2018, mae gennych hawl i gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch, a’r hawl i ofyn am ddileu’r wybodaeth ar unrhyw bwynt pan mae astudiaethau wedi dod i ben yng Ngholeg Penybont.
Caiff yr wybodaeth bersonol ac addysgol a gesglir amdanoch ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddibenion mewnol o fewn Coleg Penybont, a hefyd gan y sefydliadau trydydd parti/cyrff cyllido dilynol:
Fel myfyriwr Coleg Penybont mae gennych yr hawl i wneud cwyn ffurfiol am y toriadau posibl ar reoliadau data neu unrhyw unrhyw wrthwynebiad y gallech fod â nhw am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd yma.
Os dymunwch wneud cwyn, anfonwch hi mewn ysgrifen at: Sefydliad – Coleg Penybont, Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3DF
Swyddog Diogelu Data – Cerianne Morgan (camorgan@bridgend.ac.uk)
Fersiwn 1.8 – 8 Rhagfyr 2022