Tystysgrif Her Sgiliau

Mae Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn rhan o Fagloriaeth Cymru ac fe fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau, priodoleddau ac ymddygiadau mwy cymhleth gan eich galluogi i fod yn fwy parod ar gyfer eich cyrchfan yn y dyfodol, p’un ai’r brifysgol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth yw hynny.

Bydd y Dystysgrif yn eich galluogi i ‘gynllunio, gwneud ac adolygu’ wrth i chi ennill a chymhwyso ystod o sgiliau trosglwyddadwy mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau gan gynnwys cynllunio a chyflawni gweithgareddau ac adolygu canlyniadau yn ogystal â’ch cynnydd a’ch datblygiad eich hun.

Beth fyddwch chi’n ei astudio?

Bydd Tystysgrif Her Sgiliau yn eich helpu i ddatblygu ystod fawr o sgiliau craidd:

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Llythrennedd Digidol
  • Effeithiolrwydd Personol
  • Cymraeg a Dwyieithrwydd
  • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
  • Cynllunio a Threfnu
  • Creadigrwydd ac Arloesi
Prosiect Unigol

50% o’r cwrs

Dyma’ch cyfle i ddewis pwnc sy’n gymhleth ei natur, sy’n eich ysbrydoli ac a all fod o fudd i geisiadau a chyfweliadau yn y dyfodol. Byddwch yn archwilio pwnc mewn mwy o fanylder nag a wneir mewn meysydd astudio eraill. Bydd gwneud ymchwil amlochrog yn datblygu eich dealltwriaeth o’r pwnc ymhellach ac yn eich galluogi i ddod i gasgliad sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Her Menter a Chyflogadwyedd

20% o’r cwrs

Bydd yr her hon yn eich galluogi i archwilio cyfleoedd, creu syniadau gwreiddiol a chyflawni canlyniadau realistig i wella eich sgiliau menter wrth gael blas ar y byd gwaith. Byddwch yn llunio eich llwybr at gyflogaeth a byw’n annibynnol drwy ddod yn fwy hunanymwybodol gan nodi ‘ble ydw i nawr, ble ydw i eisiau bod, a sut ydw i’n cyrraedd yno?’

Her y Gymuned

15% o’r cwrs

Yn yr her hon, bydd angen i chi ddewis cymuned leol, genedlaethol neu ryngwladol yr hoffech ei chefnogi am 30 awr dros gyfnod o 4 wythnos o leiaf. Bydd rhaid i’ch gweithgaredd cymunedol fod o fudd i’r gymuned a gallwch ddewis un o lawer o opsiynau i wneud hyn.

Her Dinasyddiaeth Fyd-eang

15% o’r cwrs

Mae’r her hon yn eich galluogi i ddeall problemau cymhleth y mae’r byd yn eu hwynebu, gan gymhwyso a dyfnhau eich gwybodaeth trwy ystyried ffeithiau, syniadau a barnau. Mynegwch eich syniadau trwy lunio a chyflwyno’ch datrysiad i gynulleidfa.

Eisiau mynd ymlaen i’r brifysgol ar ôl y coleg?

Defnyddir Pwyntiau Tariff UCAS i drosi eich cymwysterau a’ch graddau yn werth rhifiadol. Mae gan lawer o gymwysterau werth Tariff UCAS, a bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar faint y cymhwyster ac ar y radd a gewch.

Sut maen nhw’n cael eu defnyddio?

Mae rhai prifysgolion a cholegau yn cyfeirio at bwyntiau Tariff UCAS yng ngofynion mynediad eu cyrsiau, ond nid yw hyn yn golygu na fyddant yn ystyried cymwysterau nad ydynt yn ymddangos ar y Tariff. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gofynion mynediad y cwrs yn ofalus!

Bydd pob un o brifysgolion Cymru yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn eu cynigion!

Mae’r pwyntiau UCAS canlynol yn berthnasol i’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch:

Gradd THS UwchPwyntiau Tariff UCAS
A*56
A48
B40
C32
D24
E16

Mae Prifysgol Caerdydd yn derbyn Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ar gyfer mynediad i bob un o’i rhaglenni gradd israddedig a bydd Diploma Bagloriaeth Cymru Craidd yn cael ei ystyried yn gyfwerth â Safon Uwch.”

Prifysgol Caerdydd

Mae Tystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn anarferol fel cymhwyster y mae ei gynnwys yn cael ei arwain i raddau helaeth gan y myfyrwyr eu hunain. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr hunan-gymhelliant, y chwilfrydedd a’r meddwl annibynnol y mae’r dull hwn o ddysgu yn eu datblygu. Rydym yn chwilio am nodweddion hyn, ynghyd â thair Safon Uwch rhagorol, mewn prifysgolion cystadleuol fel Rhydychen.”

Coleg yr Iesu, Rhydychen

Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cynnig Tystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru), ac yn cydnabod y sgiliau gwerthfawr a ddatblygir wrth astudio ar gyfer y cymhwyster yma.

Prifysgol Bryste

Dysgwch fwy am y Dystysgrif Her Sgiliau

(*) yn nodi meysydd gofynnol

Modd
Y cyfan
Rhan amser
Llawn amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Ymadawyr Ysgol
Prentisiaethau
Astudio Rhan-Amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn