Dim yn siŵr beth i’w astudio?
Mae dewis cwrs sy’n iawn i chi yn benderfyniad mawr; efallai nad ydych yn gwybod yn union ym mha faes y dymunwch gael gyrfa na pha lefel sydd angen i chi astudio.
Y newydd da yw ein bod yma i’ch helpu i ddechrau ar eich taith! P’un ai ydych yn ymadael â’r ysgol, yn oedolyn sy’n dysgu, eisiau astudio lefel A neu’n dymuno astudio’n rhan-amser, mae gennym ddigon o opsiynau i’ch helpu i gyflawni eich uchelgais.
Dyma ychydig o ffyrdd i ganfod y cwrs iawn chi.
- Chwilio am gwrs drwy ddefnyddio gair allweddol sy’n berthnasol i’r hyn y dymunwch ei astudio. Gallwch gyfyngu eich chwiliad drwy hidlo, er enghraifft yn ôl rhan-amser neu lawn-amser.
- Chwilio yn ôl pwnc os gwyddoch pa faes y dymunwch ei astudio, p’un ai ydych yn ymadael â’r ysgol, oedolyn sy’n dysgu neu os hoffech ddod yn brentis.
- Search by interest – you can find courses based on the things you like or do as a hobby.
Mae gennym drosolwg defnyddiol o’r gwahanol lefelau sydd ar gael i’ch helpu i benderfynu pa lefel sy’n iawn i chi, a all ddibynnu ar eich cymwysterau, profiad blaenorol neu uchelgais ar gyfer y dyfodol.
Os ydych yn ansicr pa gwrs sy’n iawn i chi, beth am siarad gydag un o’n hyfforddwyr gyrfa a all helpu?



















