Sefydlodd Coleg Penybont ei Academi Rygbi yn 2005 – gweledigaeth a ddaeth yn fyw drwy waith Gareth Nicholas, Pennaeth Rygbi, a Paul Adams, Pennaeth Chwaraeon. Roedd y ddau ddyn yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu ar y cae ac oddi arno.
Dros y blynyddoedd ers ei sefydlu, mae cannoedd o fyfyrwyr wedi elwa o’r rhaglen chwaraeon. Cafwyd llu o gyfleoedd i deithio ar draws y wlad ac ar draws y byd ar gyfer gemau, i gyrchfannau mor bell â Hong Kong a Gogledd America. Rydym hefyd wedi croesawu timau o bedwar ban byd, gan gynnwys o Seland Newydd, De Affrica a thimau cenedlaethol dan-18 a dan-20 Japan.
Yn y bôn, mae rygbi yn hybu gwaith caled, disgyblaeth, gwytnwch a dyfalbarhad. Mae’r sylfaen hon, ynghyd â’r cwricwlwm amrywiol y mae’r rhaglen yn ei gyflwyno, yn sicrhau bod unrhyw un sy’n ymrwymo i’r academi yn barod ar gyfer y cam nesaf ar eu taith, boed hynny yn y byd chwaraeon neu’r tu hwnt i hynny.
Mae’r egwyddor hon o hyd yn ei lle hyd heddiw. Nid yn unig yw’r Academi Rygbi yn datblygu gallu myfyrwyr ar gyfer y gamp ei hun, ond mae hefyd wedi ymrwymo i ddarparu sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy sydd o fudd i unigolion, y Coleg a’u cymunedau.
Mae ein Hacademi Rygbi yn agored i bob myfyriwr yng Ngholeg Penybont, dim ots pa gwrs rydych chi’n ei astudio. Rhaid i fyfyrwyr allu mynychu amserlen hyfforddi’r academi a ffitio hyfforddiant o amgylch eu hymrwymiadau i’w cyrsiau.
I wneud cais i ymuno â’n Hacademi Rygbi, anfonwch e-bost at ein Pennaeth Rygbi, Craig Warlow: cwarlow@bridgend.ac.uk.
Bydd ein hyfforddwyr, athrawon ac ymarferwyr profiadol wrth law i’ch cadw’n ddiogel a’ch helpu i gyflawni eich potensial.
Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i brofi ei hun. Gwyddom, o brofiad, y gall hyn fod yn anodd iawn. Fodd bynnag, rydym yn cynnig y sbectrwm llawn o gefnogaeth, o’n staff cwricwlwm, hyfforddwyr a’n tîm meddygol i’ch cyfoedion.
I gael cymorth neu gyngor, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o’r canlynol drwy cwarlow@bridgend.ac.uk:
Mae Coleg Penybont yn falch iawn o fod wedi arwyddo cytundeb 3 blynedd gyda Bridgend Ravens yn ddiweddar, gan greu llwybr rygbi ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hon yn bartneriaeth unigryw sy’n gweld Bridgend Ravens yn cysylltu â busnesau masnachol lleol i helpu i ariannu bwrsariaethau chwaraeon ar gyfer darpar chwaraewyr rygbi lled-broffesiynol a phroffesiynol yn y fwrdeistref.
Bydd rhaid i bob myfyriwr sy’n mynychu’r Coleg ac sy’n cael bwrsariaeth ddangos cynnydd yn academaidd, yn gorfforol ac o ran eu perfformiad fel rhan o’r cytundeb.
I ddysgu mwy am y cyfle hwn, dilynwch y ddolen i wefan wefan Bridgend Ravens website.
O chwaraewyr clybiau lleol i chwaraewyr rhyngwladol Cymru, mae Academi Rygbi Coleg Penybont wedi cynhyrchu toreth o chwaraewyr dawnus sydd wedi ffynnu yn eu gyrfaoedd chwaraeon.
































































