Cefnogwn fwy na 7,500 o fyfyrwyr sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau, o TGAU i Raddau Anrhydedd, ar draws ein pedwar campws. Cynigiwn gyfleoedd astudio rhan-amser a llawn-amser, yn ogystal â chyrsiau hobi byr drwy ein Coleg Cymunedol.
Rydym yn falch o’r cyfleoedd rhagorol a gynigiwn i’n myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth a hefyd y tu allan. P’un ai yn dripiau maes, clywed gan siaradwyr gwych neu ddod yn gynrychiolydd dosbarth, rydym eisiau rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu eich gwybodaeth, hyder a sgiliau fel y gallwch ddatblygu i fod yn ddinesydd hapus a byd-eang y dyfodol.
Rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd, p’un ai ydych yn ansicr am ba lefel y dylech fod yn astudio, os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, neu os hoffech wybodaeth am y cymorth dysgu ychwanegol a gynigiwn.
Y ffordd orau i chi ganfod os yw Coleg Penybont yn iawn i chi yw dod i Noswaith Agored. Cynhaliwn ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn lle gallwch sgwrsio am ein tiwtoriaid am y cwrs mae gennych ddiddordeb ynddo, gweld ein cyfleusterau rhagorol a chael gwybodaeth am ein gwasanaethau cymorth rhagorol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am astudio gyda ni, cysylltwch â ni