Rydym yn cynnig dewis helaeth o raglenni rhan-amser gydag achrediad gan y Sefydliad Siartredig Rheolaeth (CMI) a’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Mae’r CMI yn sefydliad rheoli proffesiynol blaenllaw ym Mhrydain ac ef yw’r mwyaf yn Ewrop. Mae’n darparu ar gyfer pob lefel o reolaeth o fyfyrwyr i uwch weithredwyr. Mae’r cyrsiau CMI a gynigiwn yn amrywio o Lefel 2 i 7 a statws Rheolwr Siartredig.
Mae cymwysterau ILM yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, gwybodaeth a galluoedd personol. Gyda rhaglenni o Lefel 2 i 5, mae’r cymwysterau sy’n darparu ar gyfer pob lefel o reolaeth ac yn cynnig llwybr clir ar gyfer atblygiad gyrfa.