Teithiau campws

Rydym yn cynnig dros 20 taith wahanol, ac mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar faes pwnc penodol.

Caiff y daith ei chynnal ar y campws y mae’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi yn cael ei astudio, ac fe gaiff ei theilwra’n benodol ar gyfer hynny, gan roi syniad eglur i chi o ble fydd eich gwersi a pha gyfleusterau a mannau arbenigol y bydd gennych fynediad iddynt.

Ymunwch â ni ar un o’n teithiau campws:

Mynediad i AU ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Addysg Uwch)

Campws Heol y Frenhines

Bydd ein taith ‘Mynediad i Addysg Uwch’ yn rhoi’r cyfle i chi archwilio ein mannau addysgu, ein llyfrgell a’n mannau astudio pwrpasol ar Gampws Heol y Frenhines. Mae’r daith hon yn addas i unrhyw un sydd am astudio Iechyd a Lles Cymunedol, Cwnsela neu Seicoleg.

Amaethyddiaeth

Campws Pencoed

Yn cael ei chynnal ar Gampws Pencoed, bydd y daith Amaethyddiaeth yn rhoi trosolwg o’n Canolfan Diwydiannau’r Tir, gan gynnwys peiriannau ac ymweliad â’n twnnel polythen defaid.

Gofal Anifeiliaid

Campws Pencoed

Gyda ffocws ar ein Canolfan Gofal Anifeiliaid, bydd y daith hon yn eich galluogi i gwrdd â rhai o’n creaduriaid preswyl, ymweld â’n cenel cŵn a’n mulod, a’ch tywys o amgylch ein Canolfan Tir.

Celf a Dylunio

Campws Penybont

Bydd ein taith o amgylch Celf a Dylunio yn mynd â chi o amgylch ein cyfleusterau celf arbenigol, gan gynnwys yr ystafell ffasiwn, y stiwdio cerameg a’r ystafell dywyll. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weld gwaith celf myfyrwyr blaenorol a chyfredol.

Arlwyo a Lletygarwch

Campws Penybont

Archwiliwch ein ceginau proffesiynol a mannau gwaith, gan gynnwys ein bwyty ar y safle, Bwyty 31. Bydd y daith hefyd yn ymweld â’r ystafelloedd dosbarth lle bydd myfyrwyr yn gallu datblygu eu gwybodaeth ddamcaniaethol.

Astudiaethau Plentyndod

Campws Penybont

Bydd ein taith ar gyfer Astudiaethau Plentyndod yn mynd â chi i ble cynhelir dosbarthiadau ar Gampws Pen-y-bont. Yma byddwch yn archwilio’r gwahanol gyfleusterau hyfforddi, gan gynnwys ein hystafell efelychu ar gyfer gweithio gyda babanod a phlant ifanc.

Cyfrifiaduro, TG a Seiber

Campws Pencoed

Ymunwch â ni ar daith o amgylch ein Hacademi STEAM arobryn, a fydd yn tynnu sylw at ein cyfleusterau TG a Gwasanaethau Myfyrwyr arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys ein hystafelloedd TG llawn offer gyda meddalwedd safonol y diwydiant.

Adeiladu

Campws Pencoed

Bydd y daith hon yn rhoi trosolwg o’n cyfleusterau arbenigol yn ein hadeiladau pwrpasol ar gyfer Adeiladwaith. Yma byddwch yn ymweld â’n gweithdai amrywiol, gan gynnwys y rhai ar gyfer gwaith saer a gosod brics.

Technolegau Digidol

(Cyfryngau Creadigol a Chelfyddydau Digidol)
Campws Pencoed

Ymunwch â ni ar daith o amgylch ein Hacademi STEAM arobryn, a fydd yn tynnu sylw at ein cyfleusterau Cyfryngau Creadigol a Gwasanaethau Myfyrwyr arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys ein hystafelloedd Mac o safon diwydiant, ystafell sgrin werdd a bwth sain.

Gwasanaethau Brys, mewn Lifrai a Chyhoeddus

Campws Pencoed

Gan ddechrau yn ein Hacademi STEAM, bydd y daith hon yn mynd â chi o amgylch yr ystafelloedd dosbarth y byddwch yn astudio ynddynt, ein neuaddau chwaraeon, caeau chwaraeon, campfa ac ardal gemau aml-ddefnydd.

Peirianneg, Gwyddoniaeth a Gwasanaethau Adeiladu

Campws Pencoed

Dewch draw am daith o amgylch ein gweithdai a’n labordai yn Academi STEAM, lle byddwch yn gallu cael golwg ar ein hoffer arbenigol, gan gynnwys roboteg.

A Bridgend College equine student with a horse.

Ceffylau

Campws Pencoed

Bydd ein taith ar gyfer Astudiaethau Ceffylau yn rhoi cipolwg trylwyr i chi ar ein darpariaeth arbenigol, gan gynnwys ein stablau, arenâu marchogaeth ac ystafelloedd dosbarth Canolfan Seiliedig ar y Tir.

A Bridgend College equine student with a horse.

Dylunio Gerddi a Thirlunio Proffesiynol

Campws Pencoed

Bydd ein taith ar gyfer Dylunio Gerddi a Thirlunio Proffesiynol yn rhoi cipolwg i chi ar ein cyfleusterau helaeth ar Gampws Pencoed. Byddwch yn cael y cyfle i ymweld â’n tŷ gwydr, twneli polythen, gerddi a gweithdai.

Gwallt, Harddwch a Therapïau Ategol

Campws Penybont

Bydd y daith ar gyfer Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol yn ymweld â’n salon gwallt a harddwch, Salon 31, y dderbynfa a’n clinig Golau Pwls Dwys (GPD).

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Addysg Bellach)

Campws Penybont

Ymunwch â ni am daith o amgylch Campws Penybont, lle byddwch yn dod o hyd i’n darpariaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yma cewch gyfle i ymweld â’n hystafelloedd dosbarth a’n hystafell ‘chwarae rôl’ ar gyfer efelychiadau gwaith.

Bridgend College Student in a classroom

Sgiliau Byw Annibynnol

Campws Penybont

Mae gennym ddarpariaeth ar gyfer Sgiliau Byw’n Annibynnol ar ein Campysau Penybont a Phencoed. Ym Mhenybont, bydd ein taith yn ymweld ag ystafelloedd dosbarth, mannau synhwyraidd a’n siop goffi ar y safle, Clwb Coffi.

Sgiliau Byw Annibynnol

Campws Pencoed

Mae gennym ddarpariaeth ar gyfer Sgiliau Byw’n Annibynnol ar ein Campysau Penybont a Phencoed. Ym Mhencoed, byddwn yn archwilio ein tŷ Sgiliau Byw’n Annibynnol, ardaloedd addysgu, y mannau synhwyraidd, ein hardaloedd garddwriaethol a’r caffi ar y safle.

Cerddoriaeth

Campws Heol y Frenhines

Ymunwch â ni ar Gampws Heol y Frenhines i edrych o amgylch ein stiwdios recordio a mannau ymarfer. Byddwch hefyd yn cael cyfle i wrando ar un o’n sesiynau addysgu.

Bridgend College Student in a classroom

Chelfyddydau Perfformio

Campws Penybont

Ar Gampws Penybont, cewch gyfle i archwilio ein cyfleusterau ar gyfer Celfyddydau Perfformio, gan gynnwys ein stiwdios dawns, theatrau ac ardaloedd cefn llwyfan.

Bridgend College Student in a classroom

Sgiliau

Campws Penybont

Bydd ein taith Sgiliau yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â’n hystafell ddosbarth ESOL, archwilio ein Hyb Llwyddiant a mwynhau taith o amgylch mannau addysgu, lle byddwch yn gallu sgwrsio â thiwtoriaid dosbarth.

Bridgend College Student in a classroom

Camu Ymlaen

Campws Penybont

Bydd ein taith Camu Ymlaen yn ymweld â’n mannau pwrpasol lle byddwch yn dod o hyd i’r holl adnoddau a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Byddwch yn cael y cyfle i archwilio ein hystafelloedd sylfaenol, Hyb Lles ac ystafell fyw.

Chwaraeon

Campws Pencoed

Ymunwch â ni am daith o amgylch ein cyfleusterau chwaraeon sy’n arwain y diwydiant ar Gampws Pencoed, sy’n cynnwys ymweliad â’n hystafelloedd dosbarth, campfa, ardal gemau amlddefnydd, neuadd chwaraeon a chaeau.

Bridgend College Student in a classroom

Addysgu ac Addysg

Campws Heol y Frenhines

Bydd y daith ar gyfer Addysgu ac Addysg yn eich galluogi i archwilio ein Campws Heol y Frenhines, gan gynnwys ein mannau addysgu, ein llyfrgell a mannau astudio pwrpasol. Byddwch yn cael cyfle i wrando ar sesiwn TAR yn ystod eich ymweliad.

Bridgend College Student in a classroom

Teithio a Thwristiaeth

Campws Penybont

Dewch draw ar gyfer ein taith Teithio a Thwristiaeth, gan roi cipolwg i chi ar yr hyn i’w ddisgwyl yn ystod eich astudiaethau tra’n archwilio ein hystafelloedd dosbarth ac ystafell efelychu caban.

Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad

Campws Pencoed

Bydd ein taith Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn rhoi’r cyfle i chi edrych o amgylch ein Canolfan Astudiaethau’r Tir gan ganolbwyntio ar ein mannau gweithdy ymarferol, ardaloedd cadwraeth a mannau plygu gwrychoedd.

Modd
Y cyfan
Rhan-amser
Llawn-amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Astudio Llawn-amser
Prentisiaethau
Astudio Rhan-amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn