Mae bod yn brentis yn ffordd wych i weithio i gyflogwr, ennill cyflog a chael cymhwyster ar yr un pryd â sicrhau sgiliau gwerthfawr ar gyfer y gweithle a phrofiad.
Mae Coleg Penybont yn cynnig gwahanol lefelau o brentisiaethau o lefel cyn-mynediad (ar gyfer rhai 14-16 oed) i brentisiaeth uwch ar Lefel 4 a thu hwnt. Gall prentisiaid symud ymlaen drwy’r lefelau neu gael mynediad uniongyrchol i lefel yn dibynnu ar y sector y maent yn gweithio ynddo a’u rôl.
Caiff prentisiaid eu hyfforddi yn y gweithle ac yn y coleg – byddwch gyda’ch cyflogwr y rhan fwyaf o’r amser ac wedyn fel arfer yn mynychu coleg ar un diwrnod o’r wythnos neu bydd eich asesydd yn ymweld â chi yn eich gweithle.
Cam cyntaf y daith prentisiaeth yw sicrhau cyflogaeth gan fod yn rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i ddod yn brentis. Mae Gyrfa Cymru yn cyhoeddi lleoedd gwag ar gyfer prentisiaethau drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaeth. Gallech hefyd gysylltu â chyflogwr yn uniongyrchol neu gysylltu â ni i gael help.
Fel gweithiwr cyflogedig, mae’r cam hwn yn golygu y byddwn yn cynnal asesiad dechreuol o’ch profiad a’ch sgiliau i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer prentisiaeth. Ar y cam hwn cysylltwch â apprenticeship@bridgend.ac.uk neu ffonio 01656 763 233 neu 763 238.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau eich bod yn addas, byddwch yn barod i wneud cais! Gellir gwneud hyn ar-lein. Bydd hefyd angen i chi gael asesiad dechreuol ar lythrennedd, rhifedd a digidol a chyfweliad.
Mae hyn yn rhan bwysig o’ch taith prentisiaeth sy’n cynnwys cwblhau rhai dogfennau allweddol fel eich bod yn glir beth a ddisgwylir gennych, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Goleg Penybont a’ch cyflogwr.
Ar y cam hwn, bydd eich Tiwtor/Asesydd yn cael ei aseinio i chi, a byddwch yn cael manylion pryd fydd angen i chi fynd i’r coleg a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i chi. Rydych yn awr yn barod i ddechrau eich prentisiaeth!.
Caiff adolygiad cynnydd ei gynnal bob 6-8 wythnos. Mae’n cynnwys gosod targedau a chynlluniau gweithredu i gefnogi eich dysgu.
Drwy gydol eich prentisiaeth, byddwch yn cael profiad gwaith gwerthfawr ac yn cael y sgiliau, gwybodaeth a mathau ymddygiad perthnasol i gynnal rôl swydd penodol.
Mae gorffen eich cymhwyster yn cynnwys asesiadau terfynol a chyflwyno portffolios wedi eu cwblhau.
Pan gaiff prentisiaeth ei gorffen yn llwyddiannus byddwch, lle’n berthnasol, yn derbyn tystysgrif dechnegol, tystysgrif cymhwysedd ac Ardystiad Sgiliau Hanfodol Cymru.
Rydych wedi gorffen eich prentisiaeth gyda ni ond gallwn ddal i’ch cefnogi gyda’ch camau nesaf, er enghraifft cyngor ac arweiniad gyrfaoedd drwy ein Tîm Cyfleoedd.
Mae hynny‘n wych! Y cam nesaf yw cysylltu gyda’n Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith ar apprenticeship@bridgend.ac.uk neu ffonio 01656 763 233 neu 763 238.
Gall fod llawer iawn o gystadleuaeth am brentisiaethau ac mae galw mawr amdanynt, ond rydym yma i helpu. Cyfleoedd yw hyb gyrfaoedd Coleg Penybont sy’n gweithio gyda myfyrwyr a chyflogwyr ac yn hysbysebu lleoedd gwag y gallwch eu gweld ar ein tudalen Cyfleoedd.
Os ydych yn ansicr pa brentisiaeth i fynd amdani neu angen cymorth i ddod o hyd i gyflogwr, mae gennym Hyfforddwyr Gyrfaoedd a Chyflogaeth profiadol a all eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus. Gallant hefyd eich helpu i gysylltu a rhwydweithio gyda chyflogwyr posibl. Os hoffech drefnu apwyntiad, ewch i Cyfleoedd (gwasanaeth gyrfaoedd).
Mae’n bwysig eich bod yn dewis prentisiaeth y byddwch yn ei mwynhau ac a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nod. Dyma rai ystyriaethau allweddol i’ch helpu i ddewis y brentisiaeth gywir:
Os ydych yn dal yn ansicr pa brentisiaeth i fynd amdani ac angen arweiniad, mae gennym Hyfforddwyr Gyrfaoedd a Chyflogaeth a all eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus. os hoffech drefnu apwyntiad ewch i Cyfleoedd (gwasanaeth gyrfaoedd).
Caiff pob dysgwr sy’n astudio rhaglenni Prentisiaeth gyda Choleg Penybont gyfle i ddilyn eu hyfforddiant yn Gymraeg, naill ai yn gyfangwbl neu’n rhannol. Caiff dysgwyr eu cefnogi i gydnabod y Gymraeg fel sgil cyflogadwyedd allweddol a chânt wahanol gyfleoedd i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg fel rhan o’u cwrs a thu allan i’w hastudiaethau.
Mae mwy o wybodaeth am sut y gallwn gefnogi dysgwyr sy’n siarad Cymraeg yma.