Bydd cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn eich helpu i fod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy’n barod i symud ymlaen i fyd gwaith a chymdeithas fyd-eang gynaliadwy trwy ddatblygu Sgiliau Cyfannol gan gynnwys:
Gan adeiladu ar gyflawniadau blaenorol ar Lefel 2 a TGAU, byddwch yn datblygu sgiliau, priodoleddau ac ymddygiadau mwy cymhleth ar Lefel 3, i’ch paratoi’n well ar gyfer y dyfodol – gallai hynny olygu mynd i’r brifysgol, dilyn hyfforddiant pellach neu symud i fyd gwaith.
Byddwch yn defnyddio Cydymaith y Cwrs, ‘Fy Nhaith,’ i gofnodi eich cynnydd o ran datblygu ac asesu’r Sgiliau Cyfannol a datblygu’r Sgiliau Mewnblanedig, sef Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol.
Byddwch yn cael cyfleoedd i ymarfer, datblygu ac arddangos y sgiliau hyn mewn gwahanol gyd-destunau fel rhan o’r rhaglen ddysgu, a chyn ymgymryd â’ch asesiad cyntaf.
Mae pob Sgìl Cyfannol yn cynnwys set o Sgiliau Penodol y byddwch yn eu datblygu a’u cymhwyso i dasgau ym mhob un o’r tri phrosiect. Bydd pob prosiect yn cynnwys nifer o dasgau. Bydd pob tasg yn nodi’n glir pa rai o’r Sgiliau Penodol bydd disgwyl i chi eu harddangos.
Bydd y sgiliau hyn yn eich galluogi i gael y gorau ohonoch chi eich hun.
Byddwch yn dysgu i ddeall a chymhwyso egwyddorion gwerthuso ac adolygu mewn perthynas â’r deilliant a gynlluniwyd a’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun. Wrth wneud hynny, bydd y sgiliau hyn yn grymuso teimlad o foddhad a chyflawniad. Yn ogystal ag asesu’r Sgiliau Cyfannol, mae cymwysterau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch hefyd yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Digidol.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys tri phrosiect gorfodol sy’n rhoi’r cyfle i chi feithrin, ymarfer a dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r Sgiliau Cyfannol trwy ystod o gyd-destunau perthnasol a chyfredol a fydd yn eich annog i gymryd rhan mewn ymgysylltiad beirniadol a sifil, ac i ystyried eu lles a lles pobl eraill.
Mae’r Prosiect Cymuned Fyd-eang yn rhoi’r cyfle i chi ystyried amrywiaeth eang o faterion byd-eang cymhleth ac amlhaenog a gwerthfawrogi sut mae materion byd-eang yn croesi ffiniau lleol a chenedlaethol.
Trwy gwblhau’r Prosiect Cymuned Fyd-eang, byddwch yn:
Mae’r gallu hwn i chwarae rôl mewn cymdeithas, yn ogystal â’i llunio’n hyderus, yn set sgiliau hanfodol i bawb.
Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol yw’ch cyfle i ystyried y canlyniadau i’r llwybrau posibl sydd ar gael i chi. Byddwch chi’n ymchwilio i’ch taith ar gyflog ac yn ystyried y potensial ar eich lles iechyd, cymdeithasol ac ariannol chi eich hun ac eraill.
Bydd Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol hefyd yn eich galluogi chi i ddeall gwerth cydweithio i ddatblygu eich ffordd o feddwl eich hun. Byddwch yn:
Mae’r Prosiect Unigol yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil a meithrin gwybodaeth fanwl am bwnc sydd o ddiddordeb penodol i chi. Bydd y sgiliau y byddwch chi’n eu datblygu o fudd mawr i chi wrth i chi symud ymlaen i addysg uwch a/neu gyflogaeth, a byddant yn bwyntiau trafod da ar gyfer cyfweliadau a fydd yn arwain at eich cyrchfan yn y dyfodol.
Wrth gwblhau’r project hwn, byddwch yn:
| Graddfa Marciau Unffurf y Prosiect | ||||||||
| Marc Crai Uchaf | Marc Unffurf Uchaf | a | b | c | d | e | ||
| Prosiect Cymuned Fyd-eang (25%) | 72 | 90 | 72 | 63 | 54 | 45 | 36 | |
| Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol (25%) | 72 | 90 | 72 | 63 | 54 | 45 | 36 | |
| Prosiect Unigol (50%) | 96 | 180 | 144 | 126 | 108 | 90 | 72 | |
Bydd y graddau cyffredinol ar gyfer y cymhwyster yn cael eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A* i E. Bydd y canlyniadau sy’n methu â chyrraedd y safon isaf ar gyfer y dyfarniad yn cael eu dangos fel U (annosbarthedig).
| Graddfa Marciau Unffurf y Prosiect | ||||||||
| Marc Crai Uchaf | Marc Unffurf Uchaf | A* | A | B | C | D | E | |
| Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch | 240 | 360 | 324 | 288 | 252 | 216 | 180 | 144 |
































































