Mae gennym bedwar campws ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef campysau Pencoed, Heol y Frenhines a Maesteg, sydd i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Caiff trafnidiaeth am ddim neu gymorthdaledig ei darparu i bob myfyriwr 16-18 oed sy’n byw 3 milltir neu fwy i ffwrdd o’u campws.
Mae’r Coleg yn darparu pasys teithio neu gymorth ariannol ar ran yr awdurdodau lleol canlynol, ond dylech hefyd gyfeirio at bolisïau trafnidiaeth cartref i ysgol/coleg yr awdurdod lleol perthnasol i gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad:
Bydd ein cynlluniwr teithiau defnyddiol yn eich helpu chi i gynllunio eich taith i Goleg Penybont ar un o’n bysiau contract.
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i flwyddyn academaidd 2022/23, a gall newid.
Os ydych chi’n dod o ardal awdurdod lleol arall, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr i gael cyngor.
Gall rhai myfyrwyr 19+ oed fod yn gymwys i hawlio treuliau teithio ar gyfer llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’n rhwydd cyrraedd campysau Maesteg, Penybont a Phencoed ar y trên. Dyma rai dolenni defnyddio i brynu cerdyn rheilffordd:
16-17 Saver
16-25 Railcard
26-30 Railcard
Os ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf ac yn astudio yng Ngholeg Penybont, llenwch y ffurflen hon i’ch galluogi chi i gael cludiant. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
Rydym eisiau hyrwyddo’r ffyrdd mwyaf cynaliadwy o deithio i’r Coleg ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Drwy ddefnyddio opsiwn teithio cynaliadwy, gallwn i gyd chwarae ein rhan yn gostwng yr effaith yr amgylchedd. Mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu, drwy:
Mae gennym leoedd ar ein campysau i gadw eich beic yn ddiogel os ydych eisiau seiclo i’r Coleg. Bydd seiclo i’r Coleg yn eich helpu i gadw’n heini tra byddwn yn helpu’r blaned.
Os ydych yn byw’n ddigon agos at eich campws, gall cerdded fod yn wych ar gyfer eich lles corfforol a meddwl, yn ogystal â’r amgylchedd
Os ydych yn byw’n agos at fyfyriwr neu gydweithiwr, gall hyn helpu i ostwng eich costau teithio, yn ogystal â’ch ôl-troed carbon.
Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gostwng nifer y cerbydau sydd ar y ffordd gan roi amser ychwanegol i astudio neu ymlacio ar y ffordd i’r coleg.
Mae gennym Gynllun Teithio Gwyrdd sy’n hyrwyddo dulliau cynaliadwy o drafnidiaeth yn ogystal â defnyddio technoleg ddigidol i ddileu neu ostwng yr angen am deithio. Yn ogystal â bod â buddion amgylcheddol, gall hyn gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant.
Os ydych yn byw tu allan i ardal Pen-y-bont ar Ogwr a/neu dros 19 oed, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais Cronfa Ariannol wrth Gefn i dderbyn help gyda chludiant.
Mae pob un o’n Tocynnau Bws yn ddigidol a gellir eu cyrchu trwy unrhyw ddyfais ffôn symudol.