Prentisiaethau i gyflogwyr

Caiff prentisiaethau eu cynllunio o amgylch anghenion busnesau a gallant helpu i drawsnewid eich sefydliad.

Cânt eu hariannu’n llawn, sy’n golygu nad oes angen i’r cyflogwr gyfrannu at y rhaglen hyfforddi, ac maent yn rhoi cyfle i harneisio talent newydd ffres trwy recriwtio aelod newydd o staff, neu uwchsgilio aelod presennol o staff. Drwy hyfforddi prentis gyda Choleg Penybont rydych yn helpu i ddatblygu llif talent i gefnogi eich sefydliad yn y dyfodol.

Gall prentis:

  • Rhoi cyfleoedd i gyflymu twf busnes
  • Gwella cynhyrchiant a gostwng costau busnes
  • Meithrin talent i wella gwasanaethau
  • Rhoi hwb creadigol i’ch busnes

Ein Prentisiaethau

Pam gweithio gyda Choleg Penybont?

Rydym wedi ennill gwobrau fel darparydd ac wedi bod yn hyfforddi prentisiaid ers dros 90 mlynedd. Rydym wedi helpu cannoedd o sefydliadau o wahanol feintiau ac mewn llawer o wahanol sectorau i ddatblygu eu gweithlu.

  • Cynigiwn dros 35 llwybr prentisiaeth, o cyn-mynediad i Brentisiaethau Uwch (Lefel 4+)
  • Rydym yn falch i fod wedi sicrhau cyfraddau cyrhaeddiad prentisiaeth sy’n sylweddol uwch na chyfartaleddau’r sector.
  • Roeddem ar restr fer ‘Rhaglen Prentisiaeth y Flwyddyn’ yn 2019 a 2020 yng Ngwobrau Addysg Bellach Tes
  • Enillodd prentisiaid Coleg Penybont wobrau ‘Prentis Cenedlaethol y Flwyddyn’ mewn gwahanol gategorïau prentisiaeth yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru rhwng 2015 a 2019
  • Enillydd Rhanbarthol Darparydd Prentisiaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau AAC 2018
  • Roedd Rachel Lewis, ein tiwtor sgiliau, yn rownd derfynol gwobr ‘Tiwtor Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru yn 2019.

Bydd ein tîm profiadol a chefnogol yn eich helpu drwy gydol y daith prentisiaeth:

  • Bydd gennych Swyddog Cydlynu Dysgu Seiliedig ar Waith i sicrhau fod y rhaglen prentisiaeth yn rhedeg yn llyfn
  • Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd a manwl ar gynnydd eich prentisiaeth ar bob elfen o’r fframwaith

Camau Nesaf

Mae’r sefydliadau y gweithiwn gyda nhw ar wahanol gamau o’u taith prentisiaeth – mae gan rai eisoes aelod presennol o staff yr hoffent iddynt fod ar y rhaglen prentisiaeth tra bod eraill yn awyddus i recriwtio aelod newydd o staff i ddod yn brentis. Rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Hoffwn recriwtio prentis ond rydym angen dod o hyd i ymgeisydd addas

Gwyddom ei bod yn hanfodol cael prentis addas ar gyfer eich sefydliad. Os ydych angen helpu yn recriwtio prentis, byddwn yn trafod eich gofynion yn cynnwys:

  • Ymchwilio eich nodau a blaenoriaethau yn y math o unigolion yr ydych yn edrych amdano
  • Casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol i dempled swydd.
  • Trafod amrywiaeth o ddulliau ar gyfer hysbysebu eich swydd wag, yn cynnwys yn fewnol gyda’n dysgwyr ein hunain, amrywiaeth o wefannau swyddi, cyfryngau cymdeithasol ac ymestyn allan drwy ein rhwydwaith helaeth
  • Cyfeirio ymgeiswyr addas atoch os ydynt yn cysylltu gyda ni
  • Eich helpu i gysylltu gydag unigolion drwy alluogi cyfleoedd i chi gyflawni neu hyrwyddo eich cyfleoedd iddynt wyneb yn wyneb.

Cysylltwch â’n tîm Gyrfaoedd yn Cyfleoedd os hoffech y cymorth hwn gennym.

Mae gennym aelod presennol o staff yr hoffwn iddynt ddechrau prentisiaeth gyda Choleg Penybont

Y cyfan sy’n rhaid i chi wneud os oes gennych aelod presennol o staff yr hoffech iddynt gynyddu eu sgiliau drwy brentisiaeth yw llenwi ein ffurflen gais ar-lein. Bydd ein Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith yn adolygu eich cais.

Os ydych angen unrhyw help neu gymorth, cysylltwch â apprenticeship@bridgend.ac.uk neu ffonio 01656 302 302 estyniad 110 neu 727

Mae gennyf unigolyn sy’n barod i ddechrau prentisiaeth gyda Choleg Penybont 

Os gwyddoch am rywun sy’n barod i ddechrau eu taith prentisiaeth gyda ni, cysylltwch gyda ni heddiw: apprenticeship@bridgend.ac.uk neu ffonio 01656 763 233 neu 01656 763 238.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw prentisiaeth a beth mae’n ei olygu?

Mae prentisiaeth yn cyfuno swydd gyda hyfforddiant. Gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw un, faint bynnag o brofiad sydd ganddynt neu faint bynnag eu hoed, e.e. person ifanc yn ymadael â’r ysgol neu aelod presennol o staff.

Mae prentisiaethau yn galluogi unigolion i ddilyn rhaglen hyfforddiant strwythuredig sy’n cynnwys cymhwyster/cymwysterau proffesiynol a hyfforddiant ar y swydd. Maent yn darparu’r sgiliau, gwybodaeth a mathau ymddygiad perthnasol sydd eu hangen ar gyfer rôl swydd benodol.

Beth yw manteision cynnal prentisiaethau?

Mae prentisiaethau yn ffordd y profwyd ei bod yn gweithio ar gyfer recriwtio staff newydd. Maent yn rhoi cyfle i ddatblygu talent newydd a chynyddu sgiliau talent presennol. Mae cyflogwyr sy’n recriwtio prentisiaethau yn aml yn sylwi ar ostyngiad mewn trosiant staff a chynnydd mewn teyrngarwch a bodlonrwydd gweithwyr.

Gallant hefyd fod yn ffordd ratach i recriwtio staff a gallant roi cyfle i’r prentis sicrhau cynnydd yn eu sgiliau a datblygu yn eu rôl.

Pa lefel prentisiaethau sydd yna?

Mae rhaglenni prentisiaeth yn ymestyn o lefel 2 – 7. Bwriedir i Lefelau 6 a 7 gyfateb i Radd Baglor neu Radd Meistr.

Pa mor hir yw prentisiaethau?

Mae hyd prentisiaethau yn amrywio yn dibynnu ar y brentisiaeth a ddewiswch a’r prentis a gyflogwch. Mae’n rhaid i brentisiaeth fod am o leiaf 12 mis. Gall rhai prentisiaethau lefel uwch neu lefel gradd redeg am hyd at 48 mis.

A all person â gradd gymryd rhan mewn prentisiaeth?

Gallant. O fis Ebrill 2017 bu cyllid ar gael i bob person graddedig faint bynnag eu profiad neu oedran. Mae’n rhaid i’r brentisiaeth fod yn sylweddol wahanol i’r cymwysterau sydd ganddynt eisoes fel bod sgiliau newydd yn cael eu dysgu.

A oes angen i’r prentis gael rôl glir?

Oes, mae’n rhaid i brentisiaid gael eu cyflogi mewn swydd go iawn. Cânt eu contractio i rôl gan y cyflogwyr a bydd angen iddynt weithio am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Mae’n rhaid i’r contract prentisiaeth nodi’r dilynol: hyd y brentisiaeth, yr hyfforddiant a ddarperir, yr amodau gwaith a’r cymwysterau y bydd y prentis yn gweithio atynt. Bydd pob prentisiaeth yn cynnwys amser i astudio naill ai yn y Coleg neu yn y gweithle fel rhan o’u horiau gwaith cytundebol.

A fedrir cynnig prentisiaeth i aelod presennol o staff?

Glir, os yw’r brentisiaeth yn berthnasol i rôl eu swydd, yn addysgu rhywbeth newydd iddynt ac yn rhoi cynnydd gyrfa. Dim ond ar gyfer prentisiaethau sy’n berthnasol i rôl swydd yr unigolyn y mae cyllid ar gael.

Mae’n rhaid i’r prentis fedru dangos y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad gofynnol a nodir yn y brentisiaeth.

A all aelod rhan-amser o staff gymryd rhan mewn prentisiaeth?

Oes, mae cyfleoedd ar gael i ganiatáu i staff rhan-amser  gymryd rhan mewn prentisiaeth. Fodd bynnag, bydd yn cymryd yn sylweddol hirach i brentis rhan-amser i gwblhau’r brentisiaeth.

Beth sy’n digwydd os aiff prentis ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb salwch hirdymor?

Os yw prentis yn mynd ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb salwch hir-dymor yn ystod prentisiaeth, gellir atal y brentisiaeth a bydd yn parhau ar ôl i’r prentis ddychwelyd i’r gwaith.

Faint ddylai prentisiaid gael eu talu?

Faint ddylai prentisiaid gael eu talu? Caiff cyflog ei dalu i bob prentis a bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar rôl y swydd. Mae’n rhaid i’r cyflogwr gydymffurfio â deddfwriaeth isafswm cyflog cenedlaethol.

Mae’n rhaid talu’r isafswm cyflog ar gyfer eu categori oedran i brentisiaid dros 19 oed. Dylid nodi fod prentisiaethau lefel uwch yn derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol, ac nid isafswm cyflog prentisiaeth. Mae’n rhaid i brentisiaid gael cynnig yr un amodau â gweithwyr eraill sy’n gweithio ar raddau tebyg neu mewn swyddi tebyg, yn cynnwys gwyliau ar dâl, tâl salwch ac unrhyw fuddion a gynigiwch, e.e. cynlluniau taleb gofal plant, hyfforddi neu fentora ac yn y blaen.

A oes angen defnyddio’r term ‘prentis’ yn nheitl swydd y prentis?

Na; mater i bob cyflogwr yw teitlau swyddi, felly ni fydd yn rhaid i chi gynnwys ‘prentis’ yn nheitl y swydd.

Description for this block. Use this space for describing your block. Any text will do. Description for this block. You can use this space for describing your block.

Cefnogi’r Gymraeg

Caiff pob dysgwr sy’n astudio rhaglenni Prentisiaeth gyda Choleg Penybont gyfle i ddilyn eu hyfforddiant yn Gymraeg, naill ai yn gyfangwbl neu’n rhannol. Caiff dysgwyr eu cefnogi i gydnabod y Gymraeg fel sgil cyflogadwyedd allweddol a chânt wahanol gyfleoedd i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg fel rhan o’u cwrs a thu allan i’w hastudiaethau.

Mae mwy o wybodaeth am sut y gallwn gefnogi dysgwyr sy’n siarad Cymraeg yma.

Modd
Y cyfan
Rhan amser
Llawn amser
Nos
Pwnc
Y cyfan
Access to Higher Education
Access to Higher Education
Adult Basic Education
Agriculture & Countryside Management
Agriculture and Environmental Conservation
Agriculture, Wildlife and Countryside
Animal Care
Art & Design
Art, Design and Creative Media
Art, Design and Creative Media
Automotive Engineering (Light and Heavy Vehicle)
Brickwork
Bridgend College
Building Construction Brickwork
Building Services
Business
Business Administration and Accounting
Care and Childhood Studies
Care and Childhood Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Care, Childhood and Landbased Studies
Carpentry
Carpentry and Joinery
Catering & Hospitality
Community College
Construction
Construction and Built Environment / Civil Engineering
Construction Plant Maintenance
Cookery
Counselling
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Creative Arts, Education, Sport & Public Services
Criminology
Customer Service
Digital Technologies
Education
Electrical and Electronic Engineering
Electrical Engineering
Electrical Installation
Engineering
English
Equine
ESOL
Facilities Management
Green Skills Courses
Hair & Beauty Therapy
Hair & Beauty Therapy
Health and Social Care
Horticulture
Horticulture
Horticulture / Sports Turf
Independent Living Skills
Independent Living Skills
Information & Office Technology
Information & Office Technology
Languages
Leadership and Management
Logistics
Looking after people
Maths
Mechanical Engineering
Motor Vehicle
Motor Vehicle
Multiply
NPTC
NPTC
Online Learning
Other
Painting & Decorating
Part Time Provision
Part Time Provision
Part Time Provision
Partnerships
Partnerships
Partnerships
Penybont 6th Form
Performing Arts
Performing Arts
Plumbing
Psychology
Public Services
Science
Services to People & Skills
Services to People & Skills
Skills
Skills & Partnerships
Skills, Partnerships, Sport, Public Services, Digital Technologies and IT
Social Work
Sport
STEM
STEM
Step Up
Travel and Tourism
Unspecified
Veterinary Nursing
Welding
Work Based Learning
Math
Y cyfan
Ymadawyr Ysgol
Prentisiaethau
Astudio Rhan-Amser
Addysg Oedolion
Addysg Uwch
Mewngofnodi Fy Ffefrynnau English Language English
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen Instagram
Mae Link yn mynd â chi i'n tudalen LinkedIn