Rydym yn ymroddedig i alluogi’r defnydd o’r Gymraeg a dathlu ein diwylliant a threftadaeth. Mae’r coleg yn cydnabod ei ddyletswyddau pwysig dan Safonau’r Gymraeg a’r hawliau y maent yn eu rhoi i’n myfyrwyr, staff a’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau gan y coleg.
Mae digwyddiadau ar draws y coleg yn amrywio o ddathlu achlysuron fel Diwrnod Shwmae, Dydd Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi i’r Clwb Brecwast a’r Clwb Cinio – cyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill a staff sy’n siarad Cymraeg, neu sy’n dysgu’r iaith. Mae hefyd gyfle i ennill cymwysterau ychwanegol yn y Gymraeg.
Os hoffech chi gynnal neu ddatblygu eich sgiliau Cymraeg, gallwch siarad â thiwtor eich cwrs neu gysylltu â Phennaeth y Gymraeg, Carys Swain, ar cswain@bridgend.ac.uk.
Dilynwch @ColegPenybont ar Twitter i gael y newyddion a gwybodaeth diweddaraf am weithgareddau Cymraeg ar draws y Coleg.
Yn unol gyda Safonau’r Gymraeg, rydym yn ymroddedig i roi mynediad cyfartal i wasanaethau a phrofiadau yng Ngholeg Penybont i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg.
|
Darllen mwy am ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
|
|
Darllen Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 2021-2022
|
|
Darllenwch ein Hysbysiad Cydymffurfio
|
Gwnawn ein gorau i gydymffurfio gyda holl Safonau’r Gymraeg ac i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i unrhyw un sy’n dewis cyfathrebu gyda ni neu ddefnyddio ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n bwysig eich bod yn gadael i ni wybod os teimlwch nad ydym wedi medru rhoi’r gwasanaeth yn y Gymraeg y byddech yn ei ddisgwyl, fel y nodir o fewn y safonau, fel y gallwn gymryd camau i unioni pethau.
|
Gweithdrefn Cwynion
|