Mae ein cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi’u cynllunio i gefnogi twf personol a phroffesiynol trwy eich helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, yn y gweithle neu fel llwybr i addysg bellach.
Rydym yn cynnig ystod eang o bynciau i feithrin sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol/TG, cyflogadwyedd a sgiliau bywyd. Gyda chyrsiau fel Mathemateg i Rieni, Cyfrifiaduron a Dysgu Digidol, Ieithoedd, Gwneud Cacennau, Ysgrifennu Creadigol, Celf, a mwy!
P’un a ydych eisiau gwella’ch sgiliau mathemateg, magu hyder mewn sgiliau, dychwelyd i addysg gyda chwrs hamddenol, di-bwysau, neu gysylltu ag eraill trwy ddysgu yn y gymuned, mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i’ch helpu i gyflawni eich nodau mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.
Rydym yn cynnig ystod o lefelau gan gynnwys Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1 a Lefel 2.
Cynhelir cyrsiau mewn sawl lleoliad cymunedol fel Campws Penybont, Campws Pencoed, Neuadd y Dref Maesteg, Ysgol Gynradd Llidiard, Ysgol Gyfun Bryntirion, The Bridge Community Hub, a Thŷ Bryngarw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael arweiniad, rydym yma i helpu!
Ffoniwch ni ar 01656 302302 (ext. 703) neu anfonwch e-bost at acl@bridgend.ac.uk
Edrychwn ymlaen at eich cefnogi ar eich taith ddysgu!
Mae ein cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’n barhaus, fodd bynnag, er mwyn bodloni gofynion cyrff ariannu, ni all dysgwyr dderbyn cyllid i ail-wneud unedau. Os ydych chi am ail-wneud yr un uned, bydd ffi na ellir ei had-dalu o £150 + TAW (£180) yn berthnasol, ac ni fyddwch chi’n gallu derbyn ail gymhwyster ffurfiol ar gyfer yr uned honno.
Yn yr un modd, gall dysgwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ariannu cychwynnol gofrestru ond rhaid iddynt dalu’r un ffi a byddant yn derbyn y cymhwyster ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.
**Mae croeso i chi wneud cais yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs, hyd yn oed ar ôl iddo ddechrau.**
































































