Mae Corff Llywodraethu Coleg Penybont yn cynnwys 20 aelod, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol/Pennaeth, tri myfyriwr-lywodraethwr, dau staff-lywodraethwr ac un cynrychiolydd cyflogwr lleol.
Mae’r holl aelodau wedi’u penodi ar sail eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu profiad a sut mae eu gwerthoedd yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd y Coleg. Pedair blynedd yw eu cyfnod yn y swydd, ac eithrio myfyrwyr-lywodraethwyr a benodir am flwyddyn.

Mae Emma yn frwd dros alluogi llwyddiannau myfyrwyr a graddedigion trwy arloesi a chydweithio. Hi yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgu Prifysgol De Cymru gyda ffocws ar arwain Llyfrgelloedd, Gwasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a Datblygu Sgiliau Academaidd Myfyrwyr yn y sector addysg uwch yng Nghymru.
Mae Emma wedi arwain a bod yn gysylltiedig â nifer o fyrddau a phrosiectau trawsnewid yng Nghymru a’r DU ac mae wedi derbyn Gwobr Times Higher Education ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gyflawnwyd fel rhan o dîm Llyfrgell rhagorol ‘WHELF’. Mae hi’n aelod etholedig o Gyngor Cynghorol Llyfrgelloedd Prydain, yn aelod o Gymdeithas Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd Graddedigion, yn aelod o
Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP), yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Technoleg gan Sage UK ac yn Ymgynghorydd Cyswllt ar Arweinyddiaeth gydag Advance HE.
Mae gan Emma wybodaeth a chryfderau helaeth mewn strategaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ehangu mynediad a chyfranogiad, a gweithgareddau arloesi cydweithredol.

Jo yw Prif Weithredwr Grŵp Cymoedd i’r Arfordir, Cymdeithas Dai ddielw sy’n gweithredu ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Fel Prif Weithredwr y Grŵp, mae Jo yn gyfrifol am oruchwylio cyfeiriad strategol y Gymdeithas. Mae Jo yn Gyfrifydd Siartredig cymwys ac mae ganddi dros ddau ddegawd o brofiad mewn rolau arwain uwch ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Mae gan Jo brofiad o arwain, rheoli newid, cynllunio strategol, rheolaeth ariannol a llywodraethu. Mae hi wedi bod mewn rolau hanfodol wrth yrru sefydliadau trwy dwf a thrawsnewid gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid sector a chydweithwyr.
Mae Jo hefyd yn Ymddiriedolwr i’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.

Bu Viv yn gweithio fel darlithydd yn y sector AB yng Nghymru am 12 mlynedd cyn symud i rolau arwain. Yng Ngholeg Penybont, roedd hi’n Ddeon ac yn Ddirprwy Bennaeth cyn iddi ddod yn Bennaeth a Phrif Weithredwr. Mae Viv yn gyfrifol am arloesi’r cwricwlwm ac addysgu a dysgu, gan sicrhau safonau ac ansawdd ar draws ystod o bynciau Dysgu Seiliedig ar Waith, AB ac AU. Hi sy’n gyfrifol am gynnal cenhadaeth y Coleg o greu amgylchedd lle gall pawb ‘fod yn bopeth y gallant fod’. Enwyd y Coleg yn Goleg AB y Flwyddyn yng ngwobrau TES 2019. Yn 2018 enillodd hi wobr Arwain Cymru am Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus. Yn 2022 enillodd fedal aur yn y categori ‘Addysgwr Eithriadol’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ffederasiwn Colegau a Cholegau Polytechnig y Byd. Ar ôl gweithio fel darlithydd AU ac AB, mae gan Viv brofiad helaeth o hyfforddi actorion a pharatoi perfformwyr ar gyfer hyfforddiant pellach. Mae Viv hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwr theatr llawrydd ac ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.

Lisa Dobbs yw’r staff-lywodraethwr nad yw’n addysgu yng Ngholeg Penybont ac mae wedi gweithio yn y Coleg ers mis Medi 2019 fel Rheolwr y Feithrinfa Ddydd a Chynllun Chwarae. Yn ddiweddar, penodwyd Lisa yn Arweinydd Datblygu Busnes i Engage Training, is-gwmni i Goleg Penybont.
Mae gan Lisa lawer o flynyddoedd o brofiad mewn arwain a rheoli busnes yn y maes Blynyddoedd Cynnar ac yn fwy diweddar arlwyo masnachol. Mae Lisa’n rhagori ar reoli newid a gwella ansawdd trwy ei thechnegau arwain a’i chraffter busnes.
Mae Lisa’n frwd dros hybu rhagoriaeth a ffurfio partneriaethau busnes gwerth chweil a buddiol i’r ddwy ochr.
Mae Lisa hefyd yn berchennog busnes.

Marion yw’r staff-lywodraethwr sy’n addysgu yng Ngholeg Penybont ac mae wedi gweithio i’r Coleg ers 2017 yn addysgu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg ac anatomeg a ffisioleg.
Marion yw Rheolwr y Gymraeg yn y Coleg ac mae’n cyflwyno rhai unedau’n ddwyieithog ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) gan alluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae hi hefyd yn arholwr Seicoleg a Chymdeithaseg Safon UG profiadol.
Mae Marion wedi bod yn ymwneud â datblygu staff ers rhai blynyddoedd ac mae’n hynod angerddol am gefnogi cydweithwyr presennol a newydd i fod yn bopeth y gallant fod.
Ar ben hynny, mae Marion yn frwd dros ei dysgu ei hun ac yn astudio cymhwyster Meistr mewn Addysg.
Mae Marion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae Claire yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae ganddi dros ddau ddegawd o brofiad fel Cyfrifydd Siartredig cymwys ac mae ganddi radd Busnes dosbarth 1af o Brifysgol Aberystwyth a MBA o Ysgol Busnes Warwick. Mae Claire wedi gweithio mewn uwch swyddi cyllid drwy gydol ei gyrfa ac ar hyn o bryd mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Cymdeithas Dai Melin.
Mae profiad Claire yn ymwneud â chyllid, llywodraethu, rheoli risg a strategaeth gorfforaethol.
Mae gan Claire ddau o blant ifanc ac mae’n mwynhau teithio yn ei hamser hamdden.

Mae Stephne yn Bartner Talent ac yn Arweinydd Cynhwysiant i Ddŵr Cymru ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Adnoddau Dynol. Mae gan Stephne gymhwyster CIPD lefel 7 ac mae ganddi brofiad mewn arweinyddiaeth, rheoli perfformiad, cynllunio a darparu hyfforddiant, gyrfaoedd cynnar, sefydlu staff newydd, cyflwyno systemau AD a thegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae Stephne yn darparu hyfforddiant iechyd meddwl a lles cadarnhaol i-act ac mae’n hyrwyddwr dros chwalu stigma iechyd meddwl.
Mae gan Stephne angerdd dros Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant a hi yw cadeirydd rhwydwaith menywod Dŵr Cymru.
Mae Stephne wedi byw ym Mhencoed ers dros 15 mlynedd ac mae ei mab wedi cwblhau ei brentisiaeth drwy’r coleg yn ddiweddar.

Mae Helen yn ganddi ddiddordeb cynyddol mewn datblygu busnesau cynaliadwy a sut mae Cymru’n darparu’r sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol i genedlaethau’r dyfodol ar ôl gweithio fel Dirprwy Gomisiynydd i sefydlu a rhedeg Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru hyd at 2021.
Mae hi hefyd wedi gweithio gyda Swyddfa Archwilio Genedlaethol y DU, Swyddfa Archwilio Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae hi’n gyfrifydd proffesiynol cymwys ac yn aelod corfforaethol o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Mae Hatti yn ei blwyddyn gyntaf o astudio Celfyddydau Perfformio Lefel 3 yma yng Ngholeg Penybont ar ôl cwblhau Lefel 2 y llynedd. Mae ganddi angerdd dros ysgogi newid ac mae perfformio yn ffordd hyfryd o godi ymwybyddiaeth o hynny. Mae Hatti yn obeithiol o ganiatáu i fyfyrwyr eraill gael eu clywed fel y gall y coleg wneud y penderfyniadau mwyaf effeithlon ac ar sail gwybodaeth er budd cymuned ein coleg.
Mae Hatti wrth ei bodd gyda’r cyfle hwn ac yn gobeithio gwneud ei chyfoedion a’r staff o’i chwmpas yn falch.

Ar hyn o bryd, mae Mihindi yn ei hail flwyddyn o astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol. Ei huchelgais yw dod yn llawfeddyg ac arbenigo mewn meddygaeth fewnol, gyda’r nod o ddod yn Bennaeth Meddygaeth rhyw ddydd. Mae’r dyheadau hyn yn gyrru angerdd Mihindi dros ddysgu a hunanddatblygiad.
Fel myfyriwr-lywodraethwr, mae Mihindi eisiau datblygu ei sgiliau arwain wrth gefnogi pobl ifanc eraill drwy eu hannog i siarad yn agored am eu problemau. Mae Mihindi wedi ymrwymo i wneud ei gorau glas i helpu i wella profiad y Coleg i bawb.

Ar hyn o bryd, mae Emma yn astudio Diploma Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio Lefel 3. Mae Emma wedi gweld sut y gall drama newid y byd a nawr mae eisiau chwarae ei rhan ei hun tuag at hynny. Mae hi’n gobeithio mai dyma’r ffordd i sicrhau bod ei llais yn cael ei glywed.
Fel Myfyriwr-lywodraethwr, mae hi wedi ymrwymo i fod yn llais cryf ar ran ei chyfoedion a chefnogi lles myfyrwyr. Mae gan Emma ddiddordeb arbennig mewn gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei glywed, ei werthfawrogi a’i rymuso trwy gydol eu hamser yn y coleg.

Penodwyd Shelley yn Brif Gyfrifydd i Archwilio Cymru yn 2019 ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn rolau cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, bu Shelley yn gweithio fel cyfrifydd mewn rolau amrywiol i Heddlu De Cymru a sefydliad dielw.
Shelley yw cynrychiolydd Archwilio Cymru ar Grŵp Swyddogion Cyllid Cyrff Noddedig Llywodraeth Cymru. Mae gan Shelley ddiddordeb mawr mewn datblygu a gweithredu systemau.
Mae Shelley yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

Ar ôl gyrfa yn y GIG a’r llywodraeth, ymunodd Joe â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain fel Rheolwr Gweithrediadau – Cymru. Mae hi wedi dod yn aelod gweithgar o nifer o gyrff fel rhan o’r rôl hon, gan gynnwys Materion Cyhoeddus Cymru, y Gynghrair Iechyd a Lles, a nifer o bwyllgorau a grwpiau Llywodraeth Cymru. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chyd-greu atebion.
Mae gan Joe fab a dau lysblentyn. Yn ei hamser hamdden mae’n helpu i redeg y Cwmni Buddiannau Cymunedol, Baobab Bach – Barry Pantry, ac mae ar Fwrdd Cynghori Cymru Marie Curie.

Mae gan Ceri dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau AD, yn bennaf yn y Sector Addysg. Ceri oedd Pennaeth Cynllunio ac Effeithiolrwydd Sefydliadol Prifysgol Caerdydd tan fis Rhagfyr 2024.
Mae gan Ceri radd Astudiaethau Busnes, gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac mae’n Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Mae gan Ceri gysylltiadau teuluol agos â Phen-y-bont ar Ogwr a’r Coleg, gyda’i thad-cu yn addysgu cwrs cadw cyfrifon gyda’r nos yn y Coleg 60 mlynedd yn ôl.

Mae Lloyd wedi gweithio yn ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) ers 2016. Ei rôl fel Pennaeth Cymru o fewn Tîm DU ACCA yw cynyddu effaith ACCA yng Nghymru a ledled y DU, codi ymwybyddiaeth o gyrhaeddiad a chwmpas ACCA, cryfhau a meithrin perthnasoedd ag aelodau, cyflogwyr, partneriaid allanol a rhanddeiliaid, gwella dylanwad, enw da a phroffil ACCA a darparu mewnbwn wrth ddatblygu polisïau ar lefel y DU ac yn fyd-eang.
Cyn ymuno ag ACCA, bu Lloyd yn gweithio yn y sector Prifysgolion am dros 20 mlynedd mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys datblygu a rheoli partneriaethau addysgu dramor ac yng Nghymru, gan gynnwys datblygu strategaethau, datblygu busnesau, sicrhau ansawdd, diwydrwydd dyladwy, rheoli risg a chyllid.
Mae Lloyd yn rhugl yn y Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae Tomos yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn Oasis, elusen sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd a De Cymru. Mae hefyd yn rhan o Fwrdd Sefydliad Bevan, melin drafod Cymru sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a lleihau tlodi. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio mewn sawl cwmni cyfreithiol cyn symud i’r trydydd sector.
Mae ganddo angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol ac eiriolaeth hawliau dynol ac mae wedi bod yn ymwneud ag amrywiol sefydliadau yn y maes hwn, yn fwyaf diweddar fel Cadeirydd Grŵp Amnest Rhyngwladol Caerdydd.
Mae ganddo radd yn y Gyfraith a gradd Meistr mewn Cyfraith Hawliau Dynol, y ddwy o Brifysgol Caerdydd.

Mae Susan wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl gyrfa 30 mlynedd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Symudodd Susan o Lundain i Gymru ym 1992 am resymau teuluol ac mae wedi gweithio mewn rolau rheoli amrywiol mewn Awdurdodau Lleol yn Ne Cymru, gan gynnwys 16 mlynedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bellach wedi ymddeol o wasanaethau rheng flaen, mae’n gweithio’n rhan-amser ym maes Datblygu’r Gweithlu.
Mae gan Susan radd Meistr mewn Rheoli Gofal Iechyd ac ar hyn o bryd mae’n hyfforddi fel hyfforddwr/mentor yn y gweithle, gan ymgorffori ei gwerthoedd o arweinyddiaeth dosturiol a meithrin tîm mewn ffyrdd ysgogol.
Mae Susan yn mwynhau’r traeth, yn treulio amser gydag anwyliaid, llyfrau sain a dysgu gydol oes.
Mae Susan yn gyffrous i fod yn rhan o’r Corff Llywodraethu ac i weithio gyda thimau’r Coleg i gyflawni’r deilliannau gorau i ddysgwyr.

JJo Creeden yw Dirprwy Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifol Agored Cymru. Jo sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth reoleiddiol Agored Cymru, ac arwain y tîm rheoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Datblygu Cwricwlwm / Ansawdd a Rheoleiddio.
Mae llywodraethu yn rhan hanfodol o gydymffurfiaeth Agored Cymru â’r gofynion rheoleiddio. Mae’r Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio yn allweddol i hyn a Jo yw Prif Swyddog y panel.
Mae Jo yn weithiwr addysg proffesiynol medrus gyda gyrfa sy’n ymestyn dros 30 mlynedd ym maes asesu a sicrhau ansawdd, archwilio a chydymffurfiaeth. Yn ystod ei gyrfa, mae Jo wedi dal amryw o wahanol swyddi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio, Rheolwr Rheoleiddio a Chymwysterau, Rheolwr Sicrhau Ansawdd, Rheolwr Achredu, Rheolwr Datblygu Staff, Cydlynydd Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Pennaeth Hyfforddiant a Chyflawni, Arweinydd Sicrhau Ansawdd Mewnol ac Asesydd.
Maes arbenigedd penodol Jo yw cydymffurfiaeth Cyrff Dyfarnu, datblygu polisïau a sicrhau ansawdd.

Mae Paul yn aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Cynllunio Adnoddau ers dechrau 2023 ac mae ganddo brofiad helaeth ar draws y sector amgylchedd adeiledig gan ei fod yn cael ei gyflogi’n uniongyrchol ac yn darparu gwasanaethau ymgynghorol i sefydliadau preifat, cyhoeddus ac elusennol amrywiol.
Roedd Paul yn gyn-fyfyriwr o Goleg Penybont yn ystod yr 1980au a dechrau’r 1990au ac wedi hynny graddiodd o Brifysgol Coventry ar ôl ennill gradd BSc Anrhydedd a gradd Meistr o astudio yn Nenmarc, Portiwgal, Ffrainc a phrifysgolion eraill ledled Ewrop.
Gweithiodd Paul fel Pennaeth Ystadau yng Ngholeg Morgannwg yn 2009 ac yna cafodd ddyrchafiad i fod yn Gyfarwyddwr Ystadau a Chyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau yng Ngholeg y Cymoedd, yn dilyn uno’r sefydliad â Choleg Ystrad Mynach yn 2013.
Ers 2017, mae Paul wedi cael ei gyflogi yn y sector addysg uwch gan Brifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Amgylchedd ac Ystadau.
Mae Paul yn parhau i fod yn angerddol am ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau newydd i bobl o bob oed a gallu er mwyn cyrraedd eu potensial llawn.

Mae gan Rachel Bowen dros 15 mlynedd o brofiad o weithio ym maes polisi a materion cyhoeddus ym meysydd iechyd, economi, cydraddoldeb ac addysg. Roedd hyn yn cynnwys chwe blynedd fel Cyfarwyddwr Polisïau a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, yn cynrychioli buddiannau’r sector AB a gweithio gyda cholegau ledled Cymru. Mae ganddi hanes llwyddiannus o ddylanwadu ar bolisïau a gweithio gydag eraill i gyflawni newid.
Mae gan Rachel PhD mewn Hanes o Brifysgol Caerdydd lle mae’n parhau i addysgu oedolion sy’n dysgu, gan arbenigo mewn rhywedd a rhywioldeb yn y cyfnod modern cynnar.
Yn ei hamser hamdden, mae Rachel yn rhedwr pellter hir brwd ac mae wedi cynrychioli Cymru ar lefel meistr mewn marathonau a hanner marathonau.

Penodwyd Nicola yn Glerc Corff Llywodraethu Coleg Penybont yn 2015 ar ôl cael profiad o lywodraethu yn y sector llywodraeth leol.
Cymhwysodd Nicola fel Cyfrifydd Siartredig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr dros 20 mlynedd yn ôl gydag un o’r pedwar cwmni cyfrifyddu mawr ac mae ganddi brofiad o archwilio, cyfrifyddu, llywodraethu a chynllunio strategol.
Mae angerdd Nicola dros lywodraethu, ynghyd â gwasanaeth ymroddedig ac ymrwymiad gan yr aelodau, wedi gweld y Corff Llywodraethu yn mynd o nerth i nerth.
Cafodd Nicola ei geni, ei magu ac mae’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae ganddi wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’i gymunedau lleol.
































































