Prentisiaethau Iau
Mae ein rhaglen Prentisiaethau Iau, a lansiwyd yn 2017, wedi gweld dros 300 o ddysgwyr yn graddio’n llwyddiannus. Bydd pob dysgwr sy’n cofrestru gyda Choleg Penybont fel Prentis Iau yn astudio TGAU mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Rhifedd yn ogystal â dewis cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 yn un o’r canlynol:
- Gwallt a Harddwch
- Adeiladwaith (Aml-sgil)
- Gofal Plant/Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fel rhan o’r rhaglen, bydd Prentisiaid Iau yn:
- Astudio pum diwrnod yr wythnos yng Ngholeg Penybont
- Elwa ar lwybr galwedigaethol llawn amser y tu fas i amgylchedd yr ysgol
- Ennill cymhwyster Lefel 1 neu 2
- Cyflawni tri chymhwyster TGAU mewn Mathemateg, Saesneg a Rhifedd
- Cael cymorth pwrpasol gan ein tîm Prentisiaethau Iau arbenigol
- Cael brecwast am ddim o’r ffreutur bob bore
- Cael mynediad at gymorth gyrfaol trwy Cyfleoedd, ein tîm gyrfaoedd
Rydym yn gweithredu’r rhaglen mewn partneriaeth ag Awdurdod Addysg Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a blynyddoedd 9 a 10 mewn naw ysgol gyfun yn yr ardal leol:
- Ysgol Gatholig yr Archesgob McGrath
- Ysgol Gyfun Brynteg
- Ysgol Gyfun Bryntirion
- Coleg Cymunedol y Dderwen
- Ysgol Gyfun Cynffig
- Ysgol Gyfun Maesteg
- Ysgol Gyfun Pencoed
- Ysgol Gyfun Porthcawl
- Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Mae angen i chi fod mlwyddyn 10 neu 11 a rhwng 14-16. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch.
I wneud cais am un o’n Prentisiaethau Iau bydd angen i chi siarad ag Arweinydd Prentisiaethau Iau eich ysgol.
Rhaglenni Prentisiaeth Iau

Gwallt a Harddwch
Bydd y Brentisiaeth Iau hon yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, technegau a gwybodaeth ynghylch gwallt a harddwch, a fydd yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu galwedigaethol. Fe fydd yn paratoi dysgwyr yn uniongyrchol ar gyfer astudiaeth bellach yn y sector gwallt a harddwch.

Adeiladwaith (Aml-sgil)
Mae’r Brentisiaeth Iau hon yn darparu’r cyflwyniad delfrydol i’r diwydiant adeiladwaith ac mae’n cwmpasu sgiliau hanfodol yn y crefftau adeiladu canlynol: gosod brics, gwaith coed a saernïaeth, plastro, peintio ac addurno, gweithrediadau adeiladwaith, teilsio waliau a lloriau, trydanol a phlymio.

Gofal Plant/Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd y Brentisiaeth Iau hon yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i yrfa fel Nyrs, Bydwraig, Ymwelydd Iechyd, Gofalwr, Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, Cwnselydd, Gweithiwr Cymdeithasol, Athro, Gwarchodwr Plant, Nyrs Feithrinfa neu Gynorthwyydd Addysgu. Yn ystod y Brentisiaeth Iau hon, byddwch yn datblygu gwybodaeth am bynciau sy’n amrywio o dyfiant, datblygiad a llesiant dynol i hybu a chynnal iechyd a llesiant.




















