Gallwch astudio ESOL o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2. Rydym yn cynnig cyrsiau ESOL rhan-amser a llawn amser.
Mae astudiaethau llawn amser yn digwydd 3 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9yb-3yp ar Gampws Penybont.
Mae astudiaethau rhan-amser yn digwydd un noson yr wythnos, 6-8yh ar Gampws Pencoed. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau rhan-amser yn ystod y dydd, ond siaradwch â’n tîm am fanylion penodol.
Os hoffech chi astudio’n rhan-amser, ewch i’n tudalen cyrsiau ESOL rhan-amser.
Mae ein cyrsiau ESOL yn cynnwys pob un o’r 4 sgil:
Caiff gramadeg a geirfa eu datblygu yn yr ystafell ddosbarth a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddewis y pynciau sy’n bwysig iddynt, yn arbennig yn eu bywydau bob dydd.
I wneud yn siŵr eich bod yn astudio ar y lefel gywir, gofynnir i chi fynychu cyfweliad lle byddwn yn gwirio eich sgiliau siarad a gwrando a hefyd yn gosod asesiad ysgrifennu a darllen byr.
Mae pob cwrs yn arwain at gymwysterau sy’n naill ai ESOL, City & Guilds neu Agored Cymru.
I drefnu eich lle ar gyfer prawf, cwblhewch y ffurflen sy’n gysylltiedig â’r cwrs yr hoffech ei astudio.
Mae’r cyrsiau hyn yn RHAD AC AM DDIM* i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, e.e. mudwyr â statws preswylydd sefydlog, ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches. Gall pobl ar fisa priod/partner hefyd fod â hawl i wersi am ddim. Efallai y codir tâl ar rai myfyrwyr, yn dibynnu ar y math o fisa sydd gennych. Yn anffodus, ni allwn dderbyn y rhai sydd â fisâu myfyrwyr neu ymwelwyr.
Bydd gwybodaeth am ffioedd, faint a phryd a sut i dalu yn cael ei darparu yn eich apwyntiad cyntaf pan fyddwch yn cwblhau eich prawf Saesneg.
*Mae ffi gofrestru o £40 i’r rhan fwyaf o ddysgwyr – mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid wedi’u heithrio.
Byddwn yn eich helpu i wella eich sgiliau iaith drwy weithio ar sgiliau siarad a gwrando, gramadeg, geirfa, darllen ac ysgrifennu. Bydd hyn yn eich helpu i fyw yn y DU nawr ac yn y dyfodol.
Byddwch yn cymryd Asesiadau City and Guilds mewn Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad. Bydd Mynediad 2 a Mynediad 3 hefyd yn cwblhau Cymhwyster Cymhwyso Rhif City and Guilds.
Mae myfyrwyr dydd llawn amser yn dod i’r coleg 3 diwrnod yr wythnos. Mae’r dosbarthiadau hyn yn cychwyn ym mis Medi ac yn para 34 wythnos. Mae dosbarthiadau dydd rhwng 9yb a 3.30yp.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys Cymhwyster Gwrando a Siarad Lefel 1 City and Guilds ynghyd â Cymhwyster Agored sy’n Cysylltiedig â Gwaith Lefel Un (Cyfwerth â 2 TGAU)
Bydd y cwrs hwn yn helpu i ddatblygu a gwella eich sgiliau iaith ym mhob un o’r pedwar maes canlynol:
Bydd y cwrs hwn yn helpu i ddatblygu a gwella eich sgiliau iaith ym mhob un o’r pedwar maes canlynol:
Mae myfyrwyr dydd llawn amser yn dod i’r coleg 3 diwrnod yr wythnos. Mae’r dosbarthiadau hyn yn cychwyn ym mis Medi ac yn para 34 wythnos. Mae dosbarthiadau dydd rhwng 9yb a 3.30yp.
































































