Os nad yw diwrnod, amser neu leoliad y cwrs yn addas, e-bostiwch y tîm yn uniongyrchol drwy acl@bridgend.ac.uk
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i greu gwaith celf cyfryngau cymysg cymhellol, gyda ffocws penodol ar siarcol ac inc. P'un a ydych chi'n ddarpar artist neu'n awyddus i ehangu eich casgliad artistig, bydd yr uned hon yn eich tywys trwy fyd cyffrous cyfuno'r ddau ddeunydd celf deinamig hyn.
Archwiliwch hanfodion bywluniadau yn y cwrs ymarferol hwn. P'un a ydych yn ddechreuwr neu'n awyddus i adnewyddu eich sgiliau, byddwch yn dysgu'r prosesau hanfodol i luniadu ffigurau dynol yn hyderus ac yn gywir. Yn y cwrs hwn, byddwch yn deall cyfrannau sylfaenol ac yn creu lluniadau deinamig o fodel byw.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Lluniadu Ffigurau Lefel 2 gan Agored Cymru
Mae'r uned hon yn cyflwyno dysgwyr i'r deunyddiau, y cyfarpar, a'r technegau sydd eu hangen i greu trefniadau blodau'r haf, gyda ffocws ar ymgorffori ategolion tymhorol. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddewis a pharatoi deunyddiau, creu gwahanol drefniadau blodau ffres sylfaenol, a chynnal amgylchedd gwaith diogel a threfnus. Mae'r uned yn pwysleisio'r defnydd o elfennau tymhorol i gyfoethogi dyluniadau blodau.
Ar ôl cwblhau'r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Trefniadau a Chynlluniau Blodau ar gyfer yr Haf Lefel 1 gan Agored Cymru
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i unigolion sy'n awyddus i ymchwilio i fyd creu tecstilau, gyda ffocws unigryw ar ffasiwn hanesyddol. Byddwch yn ennill gwybodaeth gynhwysfawr a sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol i gysyniadu, dylunio a chynhyrchu eich prosiect tecstilau eich hun, gan dynnu'n uniongyrchol o gyfnodau ac arddulliau hanesyddol. O gynhyrchu syniadau cychwynnol i ychwanegu’r manylion terfynol, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r arbenigedd i chi wireddu eich gweledigaethau tecstilau sydd wedi'u hysbrydoli gan hanes.
Ar ôl cwblhau’r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Prosiect Tecstilau Lefel 2 gan Agored Cymru
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i unrhyw un sydd eisiau meistroli technegau appliqué gan ddefnyddio peiriant gwnïo. Byddwch yn datblygu sylfaen gref mewn amrywiol dechnegau appliqué, yn dysgu sut i gynllunio a chynhyrchu eich dyluniadau eich hun, ac yn ennill y sgiliau i greu darnau tecstilau hardd.
Ar ôl cwblhau’r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Technegau Appliqué ar Beiriant Gwnïo Lefel 2 gan Agored Cymru
Archwiliwch fyd mynegiannol dyfrlliwiau! Byddwch yn datblygu sylfaen gref mewn amrywiaeth o dechnegau dyfrlliw ac yn defnyddio gwahanol gyfryngau, gan eich galluogi i greu gwaith celf deinamig a phersonol.
Ar ôl cwblhau'r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Peintio gyda Dyfrlliwiau Lefel 2 gan Agored Cymru
































































