Os nad yw diwrnod, amser neu leoliad y cwrs yn addas, e-bostiwch y tîm yn uniongyrchol drwy acl@bridgend.ac.uk
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu creadigol, gan ddefnyddio delweddaeth ac ysgrifennu hunangofiannol yn benodol. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gyfleu eu teimladau a'u hwyliau'n effeithiol trwy naratifau disgrifiadol, gan ddefnyddio technegau llenyddol fel cymariaethau a throsiadau. Mae'r uned hefyd yn archwilio pŵer delweddaeth mewn ysgrifennu creadigol, gan ddefnyddio darnau cyhoeddedig fel enghreifftiau. Yna bydd dysgwyr yn cymhwyso'r technegau hyn i greu eu pennod hunangofiannol eu hunain, gan adrodd profiad personol neu gyfres o ddigwyddiadau. Trwy gydol y broses ysgrifennu, rhoddir pwyslais ar y defnydd cywir o atalnodi, sillafu a gramadeg, gan gynnwys defnydd cywir o amserau'r ferf, gosod atalnodau, priflythrennau, paragraffu, a sillafu cywir.
Ar ôl cwblhau’r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Ysgrifennu Creadigol er Pleser Lefel 2 gan Agored Cymru
Mae'r cwrs hwn wedi’i gynllunio i unrhyw un sy'n awyddus i fireinio eu sgiliau ysgrifennu o fewn genre penodol, gan dynnu ar ymchwil bersonol i wireddu eu syniadau. Byddwch yn dysgu sut i gynnal astudiaethau personol manwl a throsi eich canfyddiadau yn ddarn ysgrifennu estynedig, gorffenedig sy'n cadw at gonfensiynau'r genre a ddewiswyd gennych.
Ar ôl cwblhau’r uned hon, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Ysgrifennu Creadigol: Ysgrifennu Estynedig mewn Genre Dewisol Lefel 2 gan Agored Cymru
































































