Datglowch Eich Dyfodol: Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont
Rydym yn cynnig ystod amrywiol o bynciau, a addysgir gan diwtoriaid profiadol, mewn amgylchedd dysgu cefnogol a bywiog. Cyflawnwch eich potensial llawn ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd i’r brifysgol neu’r llwybr gyrfa o’ch dewis.
Bydd astudio Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont yn eich galluogi i elwa ar gefnogaeth ardderchog mewn amgylchedd dysgu aeddfed gyda thiwtoriaid hyddysg sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol yn ein Hacademi STEAM ym Mhencoed a chyfleoedd gwych i fynd ymlaen i’r brifysgol. Rydym yn falch iawn o gyflawniadau uchel cyson ein myfyrwyr Safon Uwch, gyda chyfradd lwyddo o 96% a 22% o’n dysgwyr Cydweithrediad yn ennill gradd A* neu A yn 2024.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig detholiad o gymwysterau Safon Uwch sy’n rhoi hyblygrwydd gwych i’n myfyrwyr. I astudio’r rhan fwyaf o Safonau Uwch yng Ngholeg Penybont, mae angen o leiaf 5 TGAU gradd A*- C arnoch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Gall fod rhai eithriadau. Edrychwch ar bob tudalen cwrs am ofynion mynediad penodol.
Rydym hefyd yn cyflwyno’r cyrsiau canlynol fel rhan o gydweithrediad ag ysgolion o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gall dysgwyr gael mynediad i’n cyfleusterau o’r radd flaenaf yn yr Academi STEAM, Campws Pencoed yn ogystal â darlithwyr arbenigol. Os hoffech chi gael mynediad i unrhyw un o’r cyrsiau hyn siaradwch â’ch ysgol a all helpu i hwyluso hyn.
Addysgir pob cwrs o ddydd Llun i ddydd Iau 1-3pm ac eithrio Safon Uwch y Gyfraith Opsiwn X (Ar-lein) a addysgir nos Fawrth a nos Iau 4.30-6.30pm. Gallai’r amseroedd hyn newid.
Os ydych chi’n ymuno â ni fel rhan o gydweithrediad ag ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dewiswch un neu dau X neu Y gwrs o golofn X ac golofn Y.
| Opsiwn 1 (X) | Opsiwn 2 (Y) |
|---|---|
| Safon Uwch Ffilm Opsiwn X | Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 mewn Troseddeg Opsiwn Y |
| Safon Uwch y Gyfraith Opsiwn X | Safon Uwch Cymdeithaseg Opsiwn Y |
| Safon Uwch y Gyfraith Opsiwn X (Ar-lein) |
Os nad ydych yn fyfyriwr cydweithrediad ysgol, dewiswch dri chwrs Coleg Penybont gwahanol o opsiwn 1, 2 a 3.
| Opsiwn 1 | Opsiwn 2 | Opsiwn 3 |
|---|---|---|
| Safon Uwch Astudiaethau Ffilm | Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 mewn Troseddeg | Safon Uwch y Gyfraith |
| Safon Uwch y Gyfraith | Safon Uwch Cymdeithaseg | Tystysgrif Gymhwysol Lefel 3 mewn Troseddeg |
| Safon Uwch Seicoleg | Safon Uwch Cymdeithaseg | |
| Safon Uwch Seicoleg |
































































