Wrth i rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK agosáu, daeth y cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK ynghyd ar Gampws Pencoed y Coleg i fod yn rhan o daith cyfnewid y ffagl sydd wedi teithio hyd a lled Cymru.
Daeth y cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK, cyn-gystadleuwyr, y rhai a enillodd medalau yn y gorffennol, cyflogwyr, myfyrwyr a staff ynghyd i ddathlu rhan olaf taith cyfnewid y ffagl ar draws Cymru mewn un dathliad. Mae’r ffagl wedi teithio trwy golegau a darparwyr hyfforddiant ledled y wlad, gyda phob arhosfan yn dathlu bod y ffagl wedi cyrraedd drwy ddigwyddiadau arbennig. Mae’r daith cyfnewid yn arddangos angerdd, dawn ac ymrwymiad y cystadleuwyr, wrth uno cymunedau a chyflogwyr i ddathlu rhagoriaeth sgiliau.

Ar ôl y dathliadau yng Nghampws Pencoed, ymwelodd cyn-gystadleuwr a chystadleuwr presennol WorldSkills UK, Melody a Sophie, â safle adeiladu campws newydd y Coleg yng Nghanol y Dref i arddangos y ffagl yn falch a’r uchelgais y mae’r ffagl yn ei chynrychioli. Mae dyluniad y ffagl yn efelychu uchelgeisiau cystadleuwyr a’r arbenigedd cynyddol a fydd yn parhau yn eu dyfodol.
Am y tro cyntaf, bydd pum lleoliad ledled De Cymru yn cynnal rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a fydd yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn, gan gynnwys Coleg Penybont. Mae’r Coleg yn falch o gynnal cystadlaethau ar draws naw disgyblaeth, o Roboteg Ddiwydiannol i Dirlunio a Phlymio ar Gampws Pencoed. Mae pymtheg o fyfyrwyr a phrentisiaid rhagorol o Goleg Penybont wedi sicrhau lle yn rowndiau terfynol cenedlaethol Cystadlaethau WorldSkills UK. Ar ôl dangos rhagoriaeth yn eu sgiliau galwedigaethol yn y rowndiau rhagbrofol, bydd y pymtheg o fyfyrwyr a phrentisiaid nawr yn cystadlu yn erbyn y dysgwyr gorau o bob cwr o’r DU yn y rowndiau terfynol cenedlaethol.
“Mae’n achlysur nodedig i ni heddiw wrth i ni groesawu ffagl WorldSkills UK. Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, gan ei fod yn rhoi ffocws gwirioneddol ar werth addysg sgiliau galwedigaethol a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig.
“Ni yw cyrchfan olaf taith cyfnewid y ffagl felly rydym nawr yn edrych ymlaen at gynnal cystadlaethau yn ddiweddarach y mis hwn ac arddangos ein cyfleusterau eithriadol yng Ngholeg Penybont. Eleni, mae gan Gymru ei thîm mwyaf o gystadleuwyr erioed, ac rydym wrth ein bodd yn chwarae rhan allweddol yn hynny.”
Hayley Thomas, Is-Bennaeth – Cwricwlwm ac Ansawdd
Fel rhan o gynnal cystadlaethau WorldSkills UK wythnos o hyd yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y Coleg yn croesawu cannoedd o fyfyrwyr ysgol leol i arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau galwedigaethol drwy nifer o weithdai rhyngweithiol. Mae hyn yn ogystal â phanel trafod sgiliau gyda chyflogwyr a phartneriaid.
































































