Mae’r Coleg wedi nodi carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o adeiladu ei Gampws yng Nghanol y Dref, gwerth £75m. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 20 Hydref, ac roedd aelodau o Uwch Dîm Arwain y Coleg, Cadeirydd y Corff Llywodraethu, staff, myfyrwyr a thîm y prosiect yn bresennol.
Mae Gosod y Garreg Gopa yn seremoni sy’n nodi cwblhau prif strwythur yr adeilad ac mae’n digwydd pan gyrhaeddir pwynt uchaf yr adeilad. Roedd y digwyddiad yn cynnwys taith, dan arweiniad Uwch Reolwr Gweithrediadau Willmott Dixon, Tom Millard. Roedd gwesteion yn gallu gweld y cynnydd sylweddol sy’n cael ei wneud ar y safle cyn symud i lawr uchaf y datblygiad 6 llawr ar gyfer seremoni cyfnewid coeden ywen, sy’n hanesyddol yn symbol o hir oes ac amddiffyniad.
Bydd y datblygiad 12,900 metr sgwâr yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys dau adeilad newydd yn Ochr Rad a fydd yn darparu cyfleusterau addysgu a dysgu eithriadol, gan gynnwys theatr, salonau gwallt a harddwch, stiwdios recordio a dawns, gweithdai dylunio, a mwy.
“Mae’n wych bod yma yn Seremoni Gosod y Garreg Gopa ar ein Campws Canol y Dref. Mae wedi bod yn ddiwrnod emosiynol gan ei fod yn teimlo fel pe bai carreg filltir arwyddocaol wedi’i chyrraedd. Mae’r adeilad wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf, a gallwn ni wir deimlo bod popeth yn dod at ei gilydd. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o bobl i’r safle i weld pa mor anhygoel fydd yr adeilad a’r lle hwn, nid yn unig i Goleg Penybont, ond i Ben-y-bont ar Ogwr gyfan.”
Viv Buckley, Pennaeth a Phrif Weithredwr
Mae cam nesaf y gwaith adeiladu yn cynnwys gwneud y prif strwythur yn ddwrglos erbyn diwedd y flwyddyn, a bydd y gwaith crefftau mewnol a gosod yr offer angenrheidiol yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Gallwch ddysgu mwy am ddatblygiad Campws Canol y Dref yma.
Gallwch ddysgu mwy am ddatblygiad Campws Canol y Dref yma.





































































