Mae amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys benthyciadau (y bydd yn rhaid i chi eu talu’n ôl) a grantiau (na fydd yn rhaid i chi eu talu’n ôl). Mae’r cymorth rydych chi’n gymwys i’w gael yn dibynnu ar eich cwrs, ble rydych chi’n astudio, incwm eich aelwyd a ble rydych chi’n byw.
Mae’r tabl isod yn dangos sut y mae incwm yr aelwyd yn pennu faint o grant cynhaliaeth y gallwch ei gael. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad i gael y swm llawn.
Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o faint y gallech ei gael yn seiliedig ar incwm eich aelwyd:
| Incwm yr aelwyd | Byw gartref gyda rhieni | Byw oddi cartref, astudio y tu allan i Lundain | ||
|---|---|---|---|---|
| Benthyciad | Grant | Benthyciad | Grant | |
| £18,370 neu lai | £3,595 | £6,885 | £4,245 | £8,100 |
| £25,000 | £4,550 | £5,930 | £5,398 | £6,947 |
| £35,000 | £5,992 | £4,488 | £7,137 | £5,208 |
| £45,000 | £7,433 | £3,047 | £8,876 | £3,469 |
| £59,200 neu fwy | £9,480 | £1,000 | £11,345 | £1,000 |
| Cyfanswm | £10,480 | £10,480 | £12,345 | £12,345 |
Gellir dod o hyd i fanylion llawn am yr holl gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/. Bydd modd i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais am gymorth ar-lein o fis Mawrth ymlaen.
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw y tu allan i Gymru, mae gwybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio ar gael drwy’r dolenni canlynol:
Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:
Gall pawb sy’n astudio yng Nghymru wneud cais am fenthyciad nad yw’n dibynnu ar brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eu ffioedd blynyddol. I fod yn gymwys, rhaid i chi astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai’n rhaid i fyfyriwr rhan-amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn.
Gallwch wneud cais am gymorth o hyd at £4,553 tuag at gostau byw, sy’n gyfuniad o grant (na fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl) a benthyciad (y bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl). Bydd swm y grant a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau y byddwch yn astudio (dwysedd astudio) ac incwm eich aelwyd.
Ceir enghreifftiau o’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau o incwm aelwydydd a dwysedd astudio yn y tabl isod.
| Incwm (£) | Grant Dysgu Llywodraeth Cymru | Benthyciad Cynhaliaeth (£) | Cyfanswm y Grant a’r Benthyciad (£) |
|---|---|---|---|
| Astudio ar ddwysedd o 50% | Astudio ar ddwysedd o 50% | Astudio ar ddwysedd o 50% | Astudio ar ddwysedd o 50% |
| £25,000 | £3,000 | £1,553 | £4,553 |
| £35,000 | £2,270 | £2,283 | £4,553 |
| £45,000 | £1,539 | £3,014 | £4,553 |
| £59,200+ | £500.00 | £4,053 | £4,553 |
Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:
































































