Gallwch astudio ESOL o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2. Rydym yn cynnig cyrsiau ESOL rhan-amser a llawn amser.
Mae astudiaethau llawn amser yn digwydd 3 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9yb-3yp ar Gampws Penybont.
Mae astudiaethau rhan-amser yn digwydd un noson yr wythnos, 6-8yh ar Gampws Pencoed. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau rhan-amser yn ystod y dydd, ond siaradwch â’n tîm am fanylion penodol.
Os hoffech astudio’n llawn amser, ewch i’n tudalen cyrsiau ESOL llawn amser
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ESOL yn astudio yn ystod y dydd, ond rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau gyda’r nos.
Mae ein cyrsiau ESOL yn cynnwys pob un o’r 4 sgil:
Caiff gramadeg a geirfa eu datblygu yn yr ystafell ddosbarth a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddewis y pynciau sy’n bwysig iddynt, yn arbennig yn eu bywydau bob dydd.
I wneud yn siŵr eich bod yn astudio ar y lefel gywir, gofynnir i chi fynychu cyfweliad lle byddwn yn gwirio eich sgiliau siarad a gwrando a hefyd yn gosod asesiad ysgrifennu a darllen byr.