Os nad yw diwrnod, amser neu leoliad y cwrs yn addas, e-bostiwch y tîm yn uniongyrchol drwy acl@bridgend.ac.uk
Ydych chi erioed wedi meddwl sut i drin ceir yn hyderus? Mae'r cwrs cyflwyniadol hwn wedi'i gynllunio i ddechreuwyr llwyr, gan gynnig profiad ymarferol gyda thasgau cynnal a chadw ceir hanfodol. Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio mesuriadau metrig (litrau a mililitrau), gan eu cymhwyso'n uniongyrchol i hylifau a chydrannau modurol cyffredin.
I gymryd rhan yn y cwrs hwn, rhaid i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) eich hun gan gynnwys cyfanwisg ac esgidiau blaen dur addas.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn cael dyfarniad Mesurau Cyffredin - Cynhwysedd, Lefel Mynediad 2 gan Agored Cymru
































































