Byddwch yn cael gwahoddiad mewn e-bost oddi wrth ein partner, Ede and Ravenscroft. Bydd angen i chi archebu’ch tocyn a thocynnau i’ch gwesteion (gweler isod am fanylion) erbyn y dyddiad a nodwyd yn yr e-bost. Os na fyddwch yn archebu eich tocynnau erbyn y dyddiad a nodwyd, ni allwn warantu lle i chi yn y digwyddiad oherwydd cyfyngiadau o ran lle.
Gwneir hyn trwy wefan Ede and Ravenscroft a bydd manylion yn cael eu cynnwys mewn e-bost uniongyrchol oddi wrthyn nhw.
Sylwch, dim ond y rheini sy’n gwisgo gynau fydd yn cael eu caniatáu ar y llwyfan. Gwisgwch ddillad smart o dan eich gwisg academaidd a pheidiwch â gwisgo siorts, jîns na threinyrs.
Bydd angen i chi ddarparu eich taldra a chylchedd eich pen i Ede & Ravenscroft. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ede & Ravenscroft.
Bydd angen i chi wneud hyn erbyn y dyddiad a nodwyd yn yr e-bost gan Ede & Ravenscroft. Ar ôl y dyddiad hwn, dim ond ar ddiwrnod eich seremoni y byddwch yn gallu llogi gwisg academaidd.
Sylwch, bydd llogi ar y diwrnod yn ddrutach ac efallai na fydd y wisg academaidd gywir ar gael os nad ydych wedi archebu ymlaen llaw.
Bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar lefel eich cymhwyster, ond bydd llogi trwy Ede & Ravenscroft yn costio rhwng £38 a £52 (cywir ar adeg cyhoeddi).
Gallwch ddod â hyd at 2 westai gyda chi, a fydd yn cael band arddwrn wrth gofrestru. Ni fydd tocynnau ychwanegol ar gael, ac ni fydd unrhyw westeion ychwanegol y byddwch yn dod â nhw ar y diwrnod yn gallu mynychu’r seremoni.
Mae croeso i chi ddod â phlant, ond byddant yn eistedd gyda gwesteion. Os na allant eistedd ar lin, bydd angen eu sedd eu hunain arnynt (hyd at 2 sedd ar gael i bob darpar-raddedig).
Mae parcio ar gael ar y safle – dilynwch yr arwyddion a fydd yn eich cyfeirio at y meysydd parcio. Mae lleoedd parcio i bobl anabl ar gael. Rhowch wybod i ni cyn y digwyddiad os oes angen lle parcio anabl arnoch a byddwn yn rhoi cyngor i chi.
Rhowch wybod i ni cyn y diwrnod os oes gennych chi neu’ch gwesteion unrhyw ofynion hygyrchedd trwy anfon ebost at graduation@bridgend.ac.uk
Mae ein llwyfan graddio yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a bydd ddarpar-raddedigion yn gallu gweld yr awditoriwm a’r llwyfan yn ystod yr ymarfer.
Bydd lluniaeth ar gael cyn y seremoni.
Bydd myfyrwyr a gwesteion yn eistedd ar wahân.
































































