Ffurflen gydsyniad ar gyfer defnyddio geirdaon, lluniau a fideos at ddibenion hysbysebu a hyrwyddo
NID YW’R FFURFLEN GYDSYNIAD HON YN ORFODOL.
Peidiwch â llenwi’r ffurflen hon oni bai eich bod yn cydsynio i Goleg Penybont, is-gwmnïau Coleg Penybont neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â Choleg Penybont ddefnyddio eich geirdaon a lluniau a/neu fideos ohonoch at y dibenion a nodir.
Gellir defnyddio geirdaon, lluniau a/neu fideos ar gyfer unrhyw fath o farchnata, hysbysebu a gweithgarwch hyrwyddol (ar bapur ac yn ddigidol), a all gynnwys llyfrynnau, gwefannau, posteri, hysbysebion, cyfryngau traddodiadol (h.y. papurau newydd, cylchgronau) a chyfryngau cymdeithasol, heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.
Rwy’n deall mai dim ond cyhyd ag y bo hangen y bydd geirdaon, lluniau a/neu fideos ohonof yn cael eu cadw, ac yna y cânt eu dileu o systemau neu archifau’r Coleg. Fodd bynnag, rwy’n deall y gall rhai geirdaon, lluniau a/neu fideos gael eu cadw’n barhaol unwaith y cânt eu cyhoeddi, a’u cadw fel archif o “fywyd y Coleg”.
Rwy’n deall y gellir gweld cynnwys ar wefannau ledled y byd ac nid yn y Deyrnas Unedig yn unig, ac efallai na fydd gwledydd eraill yn darparu’r un lefel o ddiogelwch i hawliau unigolion ag y mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd/y Deyrnas Unedig yn ei darparu.
Rwy’n deall bod gennyf hawl i ofyn am gopi o’r Data Personol (h.y. unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â pherson naturiol adnabyddedig neu adnabyddadwy) a gedwir amdanaf, a hawl i ofyn bod y Data Personol yn cael ei gywiro neu ei ddileu os nad oes ei angen bellach. Rwy’n deall y gallaf ofyn i’r Coleg i beidio â defnyddio fy ngeirdaon, lluniau a/neu fideos ar unrhyw adeg, ac os gwneir hynny ni chânt eu defnyddio o’r pryd y rhoddir gwybod i’r Coleg nac mewn unrhyw gyhoeddiadau yn y dyfodol, ond efallai y byddant yn parhau i gael eu defnyddio mewn unrhyw ddeunyddiau papur neu ddigidol sydd eisoes yn cylchredeg.
Rwy’n deall y canlynol ac yn cytuno i hynny:
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i brosesu gwybodaeth yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a phob deddf berthnasol arall ar ddiogelu data. Bydd y data personol a gaiff ei gasglu ar y ffurflen hon yn cael ei gadw’n ddiogel, a dim ond at ddibenion gweinyddol y caiff ei ddefnyddio. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae’r Coleg yn prosesu data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd: https://www1.bridgend.ac.uk/privacy-notice/
Os hoffech dynnu eich cydsyniad i’r Coleg ddefnyddio eich geirdaon, lluniau neu fideos yn ôl, neu os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch y ffurflen gydsyniad hon neu ynghylch diogelu data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data y Coleg drwy e-bostio: data@bridgend.ac.uk
Mae hawl gennych hefyd i gyflwyno cwyn yn erbyn y Coleg ynghylch materion diogelu data drwy Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/concerns/
Rwy’n cydsynio i Goleg Penybont (y “Coleg”) ddefnyddio fy ngeirdaon neu luniau a/neu fideos ohonof y’u tynnwyd gan y Coleg, neu gan sefydliad a awdurdodwyd ar ran y Coleg, at ddibenion hyrwyddo neu gyhoeddi mewnol ac allanol y Coleg, fel y nodwyd uchod.