Cynhaliwyd seremoni ein Gwobrau Blynyddol 2025, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Bennaeth, Joe Baldwin, yn ein Hacademi STEAM ar 26 Mehefin ac roedd yn dathlu llwyddiant rhagorol ymhlith ein myfyrwyr. Rhoddodd y Pennaeth a’r Prif Swyddog Gweithredol, Viv Buckley, araith a ganmolodd gyflawniadau academaidd rhagorol y myfyrwyr, eu hymroddiad i astudio a’u penderfyniad i lwyddo eleni.
Yn ystod y noson, cyflwynwyd 28 o wobrau i fyfyrwyr a oedd wedi dangos sgil, angerdd a chymhelliant tuag at eu hastudiaethau, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cyfrannu at fywyd coleg ehangach.
Mynychodd dros 100 o westeion y digwyddiad, gan gynnwys aelodau o’r teulu, tiwtoriaid y Coleg, Llywodraethwyr y Coleg a chynghorwyr lleol, y Cynghorydd Gavin Thomas a’r Cynghorydd Martin Rock. Roedd Cymrodyr Coleg Penybont, Suzanne Packer a Paul Croke hefyd yn bresennol.
Ar ôl cyflwyno’r prif wobrau, rhoddwyd dwy wobr derfynol i gydnabod effaith myfyrwyr ar lefel Coleg cyfan.
Cyflwynwyd y ‘Wobr Ymrwymiad i Astudio’ i Morgan Ellery, myfyriwr sydd wedi dangos gwelliant sylweddol dros y flwyddyn academaidd. Cyflwynwyd ‘Gwobr Dysgwr Coleg y Flwyddyn’, a elwir hefyd yn Wobr y Pennaeth, i Melody Cheung i gydnabod ei chyflawniadau rhagorol eleni.
Yn ogystal â’r gwobrau i fyfyrwyr, cyflwynwyd Gwobr Partneriaeth Cyflogwr i Ddŵr Cymru. Dros y tair blynedd diwethaf, maent wedi gweithio mewn cydweithrediad â’r Coleg i sicrhau hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel, yn enwedig ym meysydd Peirianneg Sifil a Rheoli Adeiladwaith.
Hoffem longyfarch yr enillwyr canlynol unwaith eto ar eu gwobrau haeddiannol:
Zoe Thomas – Dysgwr y Flwyddyn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwobr Goffa Idris Jones
Tia Norris – Dysgwr y Flwyddyn mewn Astudiaethau Plentyndod, Gwobr Elizabeth John
Miles Beer – Dysgwr y Flwyddyn mewn Astudiaethau Tir
Lexi Tudor – Dysgwr y Flwyddyn mewn Celf a Dylunio
Melody Cheung – Dysgwr y Flwyddyn mewn Technolegau Digidol
Ben Williams – Dysgwr y Flwyddyn mewn Celfyddydau Perfformio a Cherddoriaeth
Dylan Case – Dysgwr y Flwyddyn mewn Chwaraeon
Darcey-Jane Williams – Dysgwr y Flwyddyn mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Ashton Moore – Dysgwr y Flwyddyn mewn Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Marli Desmond – Dysgwr y Flwyddyn mewn Twristiaeth a Lletygarwch
Aston Deforges Grey – Dysgwr y Flwyddyn mewn Technoleg Gwybodaeth
Sayed Hamed Dehqan – Dysgwr y Flwyddyn mewn Sgiliau
Jaydan Greedy – Dysgwr y Flwyddyn mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Evan Roberts – Dysgwr y Flwyddyn mewn Adeiladwaith
Carmina Medel – Dysgwr y Flwyddyn Camu Ymlaen
Alan Penny – Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Morgana Luke – Dysgwr y Flwyddyn mewn Sgiliau Byw’n Annibynnol
Morgan Ellery – Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, Y Wobr Dominic
Briallen Weaver – Dysgwr Menter y Flwyddyn
Levi McCormick – Prentis Iau’r Flwyddyn
Aled Richards – Pencampwr Cymraeg y Flwyddyn
Sarah Richards – Dysgwr y Flwyddyn mewn Addysg Uwch, Gwobr Goffa Sandra Francis
Dŵr Cymru – Gwobr Partneriaeth Cyflogwr
Courtney Carter – Gwobr Sgiliau i Lwyddiant, Campws Penybont
Samuel Humphreys – Gwobr Sgiliau i Lwyddiant, Campws Pencoed
Morgan Ellery – Gwobr Ymrwymiad i Astudio
Melody Cheung – Dysgwr Coleg y Flwyddyn, Gwobr y Pennaeth































































































