Gall astudio cwrs gyda ni arwain at yrfa gyffrous yn y diwydiant prysur hwn mewn llwybrau crefft traddodiadol, neu i gyfleoedd addysg uwch mewn gwaith syrfëwr, dylunio a rheoli. Ar hyd y ffordd byddwch yn dathlu ac yn dysgu sgiliau newydd sy’n eich galluogi i arddangos ansawdd yn eich gwaith i gyrraedd safonau diwydiant.
Wrth i Gymru weithio tuag at ostwng allyriadau carbon drwy Strategaeth Sero Net erbyn 2050, mae’r diwydiant adeiladu yn flaenllaw yn hybu’r newid hwn mewn adeiladu cartrefi drwy arloesi gyda thechnolegau, deunyddiau a dulliau newydd i helpu gostwng nwyon tŷ gwydr. Pa bynnag lwybr a ddewiswch, byddwch yn rhan o rwydwaith o grefftwyr sy’n gwneud cyfraniad parhaol i’ch cymuned.