Yn cael ei chynnal ym mhencadlys ‘Google for Education’ yn Llundain ar 28 Mehefin, roedd y seremoni wobrwyo gyntaf yn dathlu rhagoriaeth wrth ddefnyddio ‘Google for Education’. Mae gwobr Coleg y Flwyddyn yn dathlu ac yn rhannu arferion gorau sy’n ysbrydoli newid cadarnhaol a thrawsnewid addysg.
Mynychodd Colin Richards, Cydlynydd Dysgu Digidol, y seremoni a ddaeth ag Ysgolion a Cholegau ‘Google Reference’ o bob rhan o’r DU ac Iwerddon ynghyd. Amlinellodd ein cyflwyniad gwobr ein gweithrediad o ddulliau addysgu a dysgu arloesol trwy integreiddio ‘Google for Education’ i wella profiadau ar draws y Coleg cyfan. Mae hyn wedi ein cefnogi i fod yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol, er enghraifft, hwyluso cyfathrebu a chydweithio yn y Gymraeg, a chefnogi’r rhai sy’n astudio rhaglenni ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Mae Google hefyd yn cefnogi ein Strategaeth Ddigidol ehangach, trwy gefnogi staff i ddatblygu’r sgiliau digidol a’r hyder i sicrhau eu bod yn gallu addasu i ddatblygiadau yn y dirwedd ddigidol. Mae manylion holl enillwyr y gwobrau i’w gweld yma.
“Rwy’n falch iawn bod y Coleg wedi derbyn y wobr hon ac mae’n gydnabyddiaeth haeddiannol i Colin a’r Tîm Digidol ehangach. Rydym yn edrych ymlaen at brosiectau mwy cyffrous wrth i’n Strategaeth Ddigidol ddatblygu a byddwn yn gweithio’n agos gyda Google i ddatblygu cydweithrediadau a phrosiectau rhyngwladol mewn technolegau AI.”
Scott Morgan, Pennaeth Arloesedd Digidol a Gwasanaethau TG
Enillodd y Coleg statws ‘Google Reference’ yn 2020, y coleg cyntaf yng Nghymru i ddal y teitl uchel ei barch hwn, a defnyddir ‘Google Workspace’ ar draws yr holl feysydd addysgu, dysgu a chymorth. Ers rhoi Google ar waith, mae ein gallu digidol wedi symud o nerth i nerth – gydag ystod mor amrywiol o ddarpariaeth yn y Coleg, mae Google Workspace yn cynnig ateb y gellir ei deilwra i gyd-fynd â’n hanghenion digidol.