Mae ein rhaglen Prentisiaethau Iau, a lansiwyd yn 2017, wedi gweld dros 300 o ddysgwyr yn graddio’n llwyddiannus. Bydd pob dysgwr sy’n cofrestru gyda Choleg Penybont fel Prentis Iau yn astudio TGAU mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Rhifedd yn ogystal â dewis cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 yn un o’r canlynol:
Fel rhan o’r rhaglen, bydd Prentisiaid Iau yn:
Rydym yn gweithredu’r rhaglen mewn partneriaeth ag Awdurdod Addysg Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a blynyddoedd 9 a 10 mewn naw ysgol gyfun yn yr ardal leol:
Os ydych ym mlwyddyn 10 neu 11 a rhwng 14-16 oed gallwch wneud cais am Brentisiaeth Iau gyda ni. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch.
I wneud cais am un o’n Prentisiaethau Iau bydd angen i chi siarad ag Arweinydd Prentisiaethau Iau eich ysgol.
Bydd y Brentisiaeth Iau hon yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau, technegau a gwybodaeth ynghylch gwallt a harddwch, a fydd yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu galwedigaethol. Fe fydd yn paratoi dysgwyr yn uniongyrchol ar gyfer astudiaeth bellach yn y sector gwallt a harddwch.
Mae’r Brentisiaeth Iau hon yn darparu’r cyflwyniad delfrydol i’r diwydiant adeiladwaith ac mae’n cwmpasu sgiliau hanfodol yn y crefftau adeiladu canlynol: gosod brics, gwaith coed a saernïaeth, plastro, peintio ac addurno, gweithrediadau adeiladwaith, teilsio waliau a lloriau, trydanol a phlymio.
Bydd y Brentisiaeth Iau hon yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i yrfa fel Nyrs, Bydwraig, Ymwelydd Iechyd, Gofalwr, Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, Cwnselydd, Gweithiwr Cymdeithasol, Athro, Gwarchodwr Plant, Nyrs Feithrinfa neu Gynorthwyydd Addysgu. Yn ystod y Brentisiaeth Iau hon, byddwch yn datblygu gwybodaeth am bynciau sy’n amrywio o dyfiant, datblygiad a llesiant dynol i hybu a chynnal iechyd a llesiant.