Roedd myfyrwyr Coleg Penybont yn fuddugol yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025 neithiwr, gan ennill cyfanswm o 26 o fedalau. Enillwyd gwobrau yn gyffredinol, gyda myfyrwyr yn ennill 18 Aur, 5 Arian a 3 Efydd.
Cynhaliodd y Coleg barti gwylio yn ei Academi STEAM, a ddaeth â myfyrwyr a gymerodd ran, eu teuluoedd a’u tiwtoriaid ynghyd i ddathlu ymdrech, sgil a pherfformiad rhagorol y myfyrwyr a arddangoswyd yn ystod y rhagbrofion.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfres flynyddol o ragbrofion cystadleuol ar draws ystod o feysydd galwedigaethol, a gynhelir rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Mae myfyrwyr yn cystadlu yn eu categorïau dewisol, gan roi cyfle iddynt arddangos a meincnodi eu sgiliau yn erbyn eu cyfoedion. Mae’r cystadlaethau’n ymdrin â sgiliau ar draws pedwar sector allweddol: Adeiladwaith a Seilwaith; Peirianneg a Thechnoleg; Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw; a Digidol, Busnes a Chreadigol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, hefyd yn fan lansio i gyfranogwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol mawreddog, fel WorldSkills UK a WorldSkills International.
“Rydyn ni mor falch o’r holl ddysgwyr a phrentisiaid sydd wedi cymryd rhan yn y cystadlaethau eleni – mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad a’r ffordd y maen nhw wedi cydbwyso hyn ochr yn ochr â’u hastudiaethau wedi gwneud argraff fawr arnom ni. Mae’r medalau, y gwobrau ‘canmoliaeth uchel’ a’r gwobrau ‘gorau yn y rhanbarth’ a enillwyd yn ganmoladwy.” Hayley Thomas, Is-Bennaeth Cwricwlwm ac Ansawdd
Hayley Thomas, Is-Bennaeth Cwricwlwm ac Ansawdd
Hoffem longyfarch yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y Cystadlaethau Sgiliau eleni ac rydym yn hynod falch o’n holl gystadleuwyr a’n henillwyr. Dyma enillwyr medalau 2025 o Goleg Penybont:
Roboteg Ddiwydiannol: Joe Ashton, Aur Roboteg Ddiwydiannol: Dylan Jones, Aur Roboteg Ddiwydiannol: Luke Evans, Arian Roboteg Ddiwydiannol: Luke Bodenham, Arian Therapydd Harddwch: Klaudia Rajczuk, Arian Sgiliau Cynhwysol Paratoi Bwyd: Izabell Jones, Efydd Sgiliau Cynhwysol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Tamika Edwards, Aur Sgiliau Cynhwysol Gofal Plant: Lauren Barry, Arian Seiberddiogelwch: Denise James, Arian Technegydd Cymorth TG: Anton Alayev, Aur Technegydd Cymorth TG: Emma Roberts, Efydd Technegydd Cymorth TG: Roman Hrymalaskyi, Efydd Cerddoriaeth Boblogaidd: Kian Hine, Aur Cerddoriaeth Boblogaidd: Jack Charles, Aur Cerddoriaeth Boblogaidd: Olivia Santini, Aur Cerddoriaeth Boblogaidd: Iestyn Griffiths, Aur Cerddoriaeth Boblogaidd: Lili Richards, Aur Cerddoriaeth Boblogaidd: Samuel Price, Aur Cerddoriaeth Boblogaidd: Aiden Williams, Aur Celfyddydau Perfformio: Cassie Money, Aur Celfyddydau Perfformio: Rose Pierce, Aur Celfyddydau Perfformio: Isabella Edey, Aur Celfyddydau Perfformio: Lottie Stephens, Aur Celfyddydau Perfformio: Lilly Palmer, Aur Celfyddydau Perfformio: Keelie Parker, Aur Celfyddydau Perfformio: Sydney Michael, Aur
Canmoliaeth Uchel
Sgiliau Cynhwysol Garddwriaeth: Ffion Bunce Sgiliau Cynhwysol Garddwriaeth: Ethan Humphreys Gwaith Brics: Nicky Davies Plymio a Gwresogi: James Edwards Gwyddoniaeth Fforensig: Gracie Reeves Gwyddoniaeth Fforensig: Kady Corcoran Gwyddoniaeth Fforensig: Owen Foley Sgiliau Cynhwysol Paratoi Bwyd: Chantelle Dewson Sgiliau Cynhwysol Gwasanaeth Bwyty: Bethan Cox Sgiliau Cynhwysol Gwasanaeth Bwyty: Emilia Fox Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Summer Banks Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Courtney Carter Sgiliau Cynhwysol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Jack Jones Sgiliau Cynhwysol Gofal Plant: Shaya Hurley Sgiliau Cynhwysol Sgiliau Bywyd: Mason Hardcastle-Brain Sgiliau Cynhwysol Sgiliau Bywyd: Erin Taylor Codio: Elissa Milton Codio: Manu Williams Seiberddiogelwch: Charles Bretherton Seiberddiogelwch: Keiron Flannigan
Gorau yn y Rhanbarth
Technegydd Cymorth TG: Anton Alayev
































































