Yng Ngholeg Penybont cynigiwn amrywiaeth o gymwysterau ar wahanol lefelau. Islaw mae cipolwg defnyddiol ar y gwahanol lefelau sydd ar gael i’ch helpu i benderfynu pa lefel sy’n iawn i chi, a all dibynnu ar eich cymwysterau, profiad blaenorol neu ddymuniadau ar gyfer y dyfodol.
Mae TGAU yn gymhwyster lefel 2 y gellir ei hastudio mewn Mathemateg, Iaith Saesneg neu Wyddoniaeth yng Ngholeg Penybont.
Mae Safonau Uwch yn gymwysterau lefel 3 ac ar gael mewn amrywiaeth o feysydd pwnc, yn cynnwys opsiynau astudiaeth yn ystod y dydd neu gyda’r nos. Gall ennill lefelau A eich helpu i symud ymlaen i brifysgol, gwaith neu hyfforddiant.
Mae cyrsiau mynediad ar gael ar Lefelau 1, 2 a 3. Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol os oes gennych unrhyw gymwysterau neu brofiad blaenorol mewn dewis faes, a gallant roi cyfle i chi symud ymlaen i lefelau uwch o astudiaeth.
Gellir cymryd cyrsiau byr ar draws ystod eang o bynciau ac yn aml mae’n rhoi hyfforddiant a gymwysterau perthnasol i ddiwydiant sydd eu hangen ar gyfer swydd benodol.
Fel arfer mae dyfarniad yn fath byrrach o gymhwyster, gyda llai o unedau na Thystysgrif neu Ddiploma. Mae cyrff dyfarnu yn cynnwys ystod o lefelau a phynciau.
Mae nifer o wahanol gyrff dyfarnu yn cynnig tystysgrifau. Gallent fod yn gyrsiau byr ar sgiliau penodol neu mae rhai dysgwyr yn ennill Tystysgrif ac yn mynd yn syth i gyflogaeth. Gellid hefyd eu defnyddio fel carreg gamu ar gwrs Diploma.
Gall Diploma fod yn werth hyd at 37 credyd neu fwy, gyda lefel 3 yn werth 90 credyd. Caiff diplomâu eu cynnig mewn ystod eang o feysydd pwnc gydag opsiynau astudiaeth llawn-amser a rhan-amser a gellir eu hastudio ar wahanol lefelau.
Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn anelu i’ch paratoi ar gyfer y cymhwyster ar lefel HNC, HND, Gradd Sylfaen neu Radd. Os hoffech astudio ar lefel Prifysgol ond heb unrhyw gymwysterau blaenorol, gall cwrs Mynediad i Addysg Uwch roi’r wybodaeth a chymwysterau cywir i chi.
Mae Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) un lefel yn is na HND ac fel arfer mae’n cymryd dwy flynedd i’w chwblhau yn rhan-amser. Gallech hefyd gael opsiwn i gynyddu HNC i HND ar ddyddiad diweddarach.
Mae Diploma Genedlaethol Uwch (HND) yn gymhwyster galwedigaethol ar Lefel 5. Fel arfer mae’n cymryd dwy flynedd i gwblhau HND llawn-amser neu dair blynedd yn rhan-amser.
Mae graddau sylfaen yn ddelfrydol os ydych yn ansicr am gymryd gradd lawn neu os dymunwch astudio pan fyddwch yn gweithio. Gallwch ennill sgiliau proffesiynol a thechnegol i hybu eich gyrfa o fewn cyfnod byrrach na gradd lawn.
Nid oes angen i chi bob amser fynd i brifysgol i gael gradd. Cynigiwn amrywiaeth o gyrsiau lefel prifysgol yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a bod yn bartner sy’n cydweithio gyda Phrifysgol De Cymru.
Os cewch eich cyflogi eisoes ac os hoffech wella eich sgiliau a gwybodaeth yn eich dewis o yrfa, yna gallai prentisiaeth fod y llwybr berffaith i chi. Gall prentisiaethau gynnwys hyfforddiant ar y swydd yn ogystal â dysgu ystafell ddosbarth yn y coleg.
Mae NVQ (Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol) yn gyrsiau seiliedig ar waith ar gyfer diwydiant neu sector neilltuol, gan roi sgiliau a phrofiadau uniongyrchol ar gyfer swyddi perthnasol.
Anelwyd y cymwysterau hyn at ddarpar athrawon a hyfforddwyr ac athrawon a hyfforddwyr presennol yn y sector addysg bellach, addysg oedolion ac addysg alwedigaethol.
Fel arfer mae cymhwyster proffesiynol yn gymhwyster galwedigaethol sy’n cynnwys elfen o hyfforddiant ymarferol. Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol os ydych eisiau gwella eich sgiliau mewn diwydiant penodol.